Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyffordd Llandudno i Lan Conwy - Ymgynghoriad Teithio Llesol Awst 2024


Summary (optional)
Gadewch i ni wybod beth yw eich barn ar y llwybr teithio llesol arfaethedig rhwng Cyffordd Llandudno a Glan Conwy
start content

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 11 Medi 2024

Mae Tîm yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladu llwybr teithio llesol a rennir rhwng Cyffordd Llandudno a Glan Conwy.

Fel rhan o hyn, rydym yn cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio o 14 Awst i 11 Medi 2024 i ddeall ein barn ar gynigion y datblygiad.

Beth yw’r problemau?

Nid oes unrhyw lwybr teithio llesol rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno ar hyn o bryd.  Nid yw’r llwybrau presennol yn addas nac yn hawdd i bawb eu defnyddio.

Beth yw’r cynigion?

Diben y prosiect yw creu llwybr teithio llesol rhwng Glan Conwy a mynedfa gwarchodfa’r RSPB yng nghyffordd 18 yr A55.  Bydd hwn yn cysylltu â’r cynllun teithio llesol newydd y mae Llywodraeth Cymru’n ei greu yng Nghyffordd 18 a hefyd yn cysylltu â’r bont i’r Cob er mwyn teithio ymlaen i Gonwy.

Mae’r llwybr hwn yn cynnwys:

  • Pont newydd yn croesi llinell Rheilffordd Dyffryn Conwy o’r gilfan ar yr A470
  • Mynediad ramp o’r bont i lwybr rhwng y rheilffordd ac Afon Ganol
  • Pont newydd yn croesi Afon Ganol
  • Llwybr a rennir i deithio ar droed, ar feic ac ar olwynion o amgylch perimedr gwarchodfa’r RSPB i’r Ganolfan Ymwelwyr
  • Llwybr a rennir i Gyffordd 18 yr A55
  • Gwell llwybr i’r bont ar Gob Conwy


Bydd y pontydd a’r llwybr a rennir ar gael i bawb eu defnyddio ac yn addas ac yn ddigon llydan i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn, pramiau a sgwteri symudedd.

Cymerwch olwg ar y cynlluniau i gael mwy o fanylion am y cynigion.

Gweld y cynlluniau

Dewisiadau hygyrch

Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol ar ffurf PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu braille. Rydym hefyd y cynnig gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain.

Gallwn ddarparu disgrifiad llafar o’r cynigion dros y ffôn.

Gall preswylwyr ffonio Tîm Cynghori AFfCh ar 01492 575337 i siarad gyda swyddog. Os nad oes swyddog ar gael, byddwn yn cymryd eu manylion ac yn trefnu bod rhywun yn eu ffonio’n ôl.

Gallwch hefyd gysylltu â ni i ofyn am gopi papur o’r ymgynghoriad. Bydd lluniau yn cael eu darparu mewn maint A3, oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn print bras.

Beth sy’n digwydd nesaf?

  1. Gwneud cais am ganiatâd cynllunio a chymeradwyaethau eraill ar gyfer yr opsiwn a ffefrir
  2. Gwneud cais am gyllid adeiladu
  3. Anelu at ddechrau adeiladu erbyn 2026

Bydd yr holl adborth y byddwn yn ei dderbyn o’r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried yn ofalus cyn y byddwn yn gwneud cais am y caniatâd rydym ei angen i wneud y gwaith.

end content