Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Goddefebau Parcio


Summary (optional)
Mae goddefebau parcio yn galluogi gweithwyr, contractwyr adeiladu yn bennaf sy'n gwneud gwaith adnewyddu ar adeiladau i aros yn hirach na'r cyfyngiadau mewn grym.
start content

Gall y cyngor ddarparu goddefebau parcio am £20.40 fesul cerbyd, fesul diwrnod am gyfnod o hyd at wythnos.

Wrth i chi wneud cais am oddefeb, byddwn yn ymweld â’r safle i sicrhau ei bod yn ddiogel i gyhoeddi trwydded, yn dibynnu ar y lleoliad a'r cyfyngiad mewn grym yn yr ardal.

Cais Goddefeb Parcio

Ar gyfer beth mae'r oddefeb?


Bydd goddefebau ond yn cael eu rhoi mewn amgylchiadau eithriadol neu enbyd. Yn gyffredinol, dim ond er mwyn ymdopi gyda gwaith dosbarthu ac adnewyddu safleoedd mawr allai gymryd mwy na 20 munud cwblhau y mae goddefebau yn berthnasol.

Nid bwriad goddefebau yw darparu parcio “cyfleus”. Mae parcio fan sy'n cynnwys offer llaw bach neu ddeunyddiau ar gyfer gwaith y dydd neu gerbyd sy'n cludo gweithwyr i ac o safle yn cael eu hystyried yn "barcio cyfleus". Mae'r rheoliadau arferol ar gyfer llwytho / dadlwytho neu ollwng teithwyr eisoes yn cwmpasu hyn.

Sut i ymgeisio

Ar-lein

 

 

Drwy'r post


Lawrlwythwch y ffurflen, llenwch hi ac anfonwch hi ynghyd â’ch taliad i:

Gwasanaethau Parcio
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bwlch Post 146
Llandudno
LL30 9BR

Rhaid i bob cais gynnwys taliad o £20.40 fesul cerbyd, fesul diwrnod. Gallwch dalu drwy archeb bost neu siec yn daladwy i Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Gallwch hefyd dalu gyda cherdyn dros y ffôn drwy gysylltu â Gwasanaethau Parcio ar 01492 576622.


Sylwch:

  • Mae'r taliad ar gyfer asesu'r cais ac nid yw'n gwarantu cael goddefeb neu le parcio.
  • Fel arfer, bydd yn cymryd o leiaf 48 awr i brosesu cais am oddefeb parcio. Dylai amser gael ei ychwanegu ar gyfer oedi a achosir gan y post. Ni fydd sefyllfaoedd o argyfwng gwirioneddol yn ddarostyngedig i'r cyfnod rhybudd o 48 awr.

 

Amodau defnyddio Goddefeb Parcio

  • Rhaid i'r oddefeb gael ei harddangos yn glir drwy ei hatodi i du mewn ffenestr flaen y cerbyd fel y gall Gwasanaethydd Parcio neu Swyddog yr Heddlu ddarllen yr holl fanylion ar yr ochr flaen yn glir.
  • Dim ond ar gyfer y cerbyd a nodir y gellir defnyddio'r oddefeb mewn perthynas â'r pwrpas ac yn y lleoliad yn ystod y cyfnodau a ddangosir.
  • Oni nodir i'r gwrthwyneb ar yr oddefeb, NI DDYLID parcio'r cerbyd mewn bae anabl, mannau wedi'u neilltuo ar gyfer meddygon, arosfannau bysiau, a beiciau modur, mewn ardal sy'n ddarostyngedig i waharddiad llwytho, ar lwybr troed neu ymyl glaswellt, ar linellau igam-ogam i fynedfa'r ysgol neu ar groesfan cerddwyr.
  • Rhaid i'r cerbyd gael ei barcio fel nad yw'n creu perygl i gerddwyr neu ddefnyddwyr eraill y ffordd, nid yw'n rhwystro llinellau gweld ar gyffyrdd, nid yw'n rhwystro mynediad neu'n achosi rhwystr i lif y traffig.
  • Nid yw'r oddefeb yn caniatáu parcio cyffredinol yn y lleoliad a nodir. Rhaid i'r gyrrwr symud y cerbyd i rywle arall ac o fewn y rheoliadau unwaith y bydd y pwrpas a nodwyd wedi cael ei gyflawni.
  • Mae'n rhaid i'r ymgeisydd / gyrrwr roi rhif ffôn neu gyfeiriad er mwyn gallu cysylltu â nhw ar unwaith, a fydd yn cael ei gofnodi ar yr oddefeb.
  • Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cerbyd ei symud os caiff gyfarwyddyd i wneud hynny gan Swyddogion Gorfodaeth Sifil neu Swyddog yr Heddlu.
  • Bydd methu â chydymffurfio â'r amodau hyn yn arwain at dynnu'r oddefeb yn ôl. Yn ogystal, efallai y bydd Rhybudd Talu Cosb yn cael ei gyflwyno ar y cerbyd dan delerau Deddf Traffig y Ffyrdd 1991.
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?