Mae’r Cyngor yn rheoli parcio yn ein meysydd parcio a lleoedd parcio ar y strydoedd â thâl. Rydym yn dosbarthu tâl cosb am droseddau parcio hefyd, megis parcio ar linellau melyn dwbl.
Yr Heddlu sy'n gyfrifol am barcio peryglus neu rwystro.
Rhwystro’r palmant neu’r ffordd
Mae cerbydau sydd wedi parcio ar balmentydd yn rhwystr ffordd posib, ac yn beryglus. Mae cerddwyr yn cael eu gorfodi i gerdded ar hyd y ffordd i fynd o amgylch y cerbydau. Mae hyn yn broblem benodol i gerddwyr sy’n ddall neu â nam ar eu golwg, defnyddwyr cadair olwyn, pobl â phramiau a'r henoed.
Heddlu Gogledd Cymru - gwybodaeth bellach
Gallwch adrodd am gerbyd sy’n achosi rhwystr drwy ffonio 101 neu adrodd i'r Heddlu ar-lein yma: https://www.northwales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/asb/asb/riportio-ymddygiad-gwrthgymdeithasol/
Rhwystro dreifiau
Mae'n drosedd parcio ar draws palmant isel, ac eithrio:
- Gall gyrrwr stopio i lwytho a dadlwytho nwyddau
- Gall gyrrwr barcio o flaen eiddo preswyl gyda chaniatâd y perchennog, os nad oes cyfyngiadau parcio ar y ffordd
Gallwch adrodd am gerbyd sy’n achosi rhwystr drwy ffonio 101 neu adrodd i'r Heddlu ar-lein yma: https://www.northwales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/asb/asb/riportio-ymddygiad-gwrthgymdeithasol/
Os yw cerbydau wedi’u parcio yn atal mynediad i’ch dreif yn aml, yna efallai y byddwch eisiau gwneud cais am farciau amddiffyn mynedfa ger y fynedfa i’ch dreif.
Parcio ar linellau dwbl, llinellau igam ogam, mewn gorsafoedd bysiau neu mewn mannau gyda chyfyngiad aros
Gall y Cyngor ddosbarthu hysbysiadau cosb am droseddau parcio. Os ydych chi’n ymwybodol o broblem gyson, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau parcio gan ddarparu gymaint o wybodaeth ag y gallwch.