Mae’r tocyn aml-weithredwr 1bws yn caniatáu i chi ddefnyddio gwasanaethau 27 o weithredwyr bysiau a bron i 200 o lwybrau bysiau ledled Gogledd Cymru, sy’n golygu y gallwch chi deithio o gwmpas yn hawdd heb boeni pa fws i’w ddefnyddio.
Ble allwch chi ddefnyddio tocyn 1bws?
Gallwch ddefnyddio tocyn 1bws ar unrhyw wasanaeth bws yng Ngogledd Cymru i, o ac o fewn y siroedd canlynol:
- Conwy
- Gwynedd
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Wrecsam
- Ynys Môn
Allwch chi ddim defnyddio tocynnau 1bws ar wasanaeth Townlynx 28 (Yr Wyddgrug i’r Fflint) na gwasanaethau twristiaeth (fel yr X10).
Gwasanaethau bws sy’n gweithredu yn Lloegr
Dim ond ar y gwasanaethau hynny sy’n dechrau neu’n gorffen yng Nghymru ac yn gweithredu yn uniongyrchol i Gaer, Ellesmere Port neu’r Eglwys Wen (Swydd Amwythig) y gallwch chi ddefnyddio tocyn 1bws.
Gwasanaethau Traws Cymru
Mae tocynnau 1bws yn ddilys ar y gwasanaethau Traws Cymru canlynol:
- T2 (Bangor - Aberystwyth)
- T3 (Wrecsam - Y Bermo)
- T8 (Corwen - Caer)
- T10 (Corwen - Bangor)
- T12 rhwng Wrecsam a’r Waun
Sut i brynu tocyn 1bws
Gallwch brynu tocyn 1bws gan yrrwr eich bws cyntaf. Derbynnir arian parod neu ddull di-gyffwrdd o dalu ar bob bws (ond ni allwch dalu’n ddi-gyffwrdd ar wasanaeth Townlynx 6 (Yr Wyddgrug – Pant-y-mwyn).
Prisiau tocynnau 1bws
Tocynnau dydd
- Oedolyn - £7.00
- Plentyn (hyd at 16 oed) - £4.70
- Deiliad ‘Fy Ngherdyn Teithio’ - £4.70
- Consesiwn (deiliaid cerdyn teithio rhatach Lloegr neu’r Alban) - £4.70
- Teulu (hyd at 2 oedolyn a hyd at 3 o blant) - £15.00
Tocynnau wythnosol
- Oedolyn - £30.00
- Plentyn (hyd at 16 oed) - £20.50
- Deiliad ‘Fy Ngherdyn Teithio’ - £20.50
- Consesiwn (deiliaid cerdyn teithio rhatach Lloegr neu’r Alban) - £20.50
Mae deiliaid cerdyn teithio rhatach Cymru yn teithio - am ddim
Sut i ddefnyddio tocyn 1bws
I ddefnyddio tocyn 1bws, dangoswch y cod QR ar y tocyn i’r darllenydd ar bob bws y byddwch chi’n ei ddefnyddio wedyn.
Am ba hyd mae’r tocyn 1bws yn ddilys?
Mae tocyn 1bws yn ddilys am ddiwrnod cyfan, hyd at, ac yn cynnwys y bws olaf.
Dewch o hyd i'ch arosfan neu orsaf neu gynllunio eich taith efo Traveline