Bod yn hebryngwr croesfan ysgol
Mae hebryngwyr yn bobl sy'n ystyriol o'u cymunedau, dros 18 oed, sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant.
Hoffem glywed gan unrhyw un a hoffai fod yn Hebryngwr Ysgol, yn enwedig rhywun sy'n barod i wneud gwaith llanw achlysurol.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr fynd i gyfweliad, llwyddo mewn prawf meddygol a phrawf llygaid a chael gwiriad y GDG cyn eu penodi. Darperir hyfforddiant 'ar' ac 'oddi ar' y safle gan y goruchwyliwr, sy'n rhoi cefnogaeth barhaus.