Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Damweiniau a Gollyngiadau


Summary (optional)
Rydym yn gyfrifol am ddelio gyda damweiniau a gollyngiadau o ystod o ddeunyddiau a allai fod yn wenwynig neu'n beryglus sy'n digwydd ar ffyrdd wedi eu mabwysiadu. Caiff y digwyddiadau hyn, pan gant eu riportio eu trin fel argyfwng ac mae angen dulliau trin penodol a allai gynnwys asesiadau risg arbennig a threfnau argyfwng.
start content

Nid yw'n ddyletswydd arnom i glirio gollyngiadau o'r fath ar ffyrdd preifat neu ardaloedd eraill, fel meysydd parcio swyddfeydd neu garejys. Ble mae'r digwyddiadau hyn yn digwydd fe geisiwn adfer costau o'r fath yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol.

Gollyngiadau Olew a Diesel

Gall colli olew neu diesel achosi wyneb y ffordd i fod yn llithrig felly mae angen ei glanhau cyn gynted â phosibl.  Gwneir hyn trwy roi tywod ar yr ardal a rhoi arwyddion ar ymyl y ffordd.  Bydd gollyngiad petrol yn anweddu i'r atmosffer

Cau mewn Argyfwng

Mae gan yr heddlu a'r awdurdod priffyrdd  bŵer i gau ffordd heb unrhyw rybudd ple amlygir perygl sylweddol.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?