Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tyllau ar y ffyrdd


Summary (optional)
Sut rydym yn mynd i’r afael â thyllau yn y ffyrdd, a sut i roi gwybod i ni amdanynt.
start content

Sut mae tyllau yn y ffyrdd yn cael eu hachosi?

Achosir tyllau a diffygion ar ffyrdd gan ddŵr sy'n treiddio i arwyneb ffordd drwy graciau a achosir gan draffig fel arfer. Pan fo’r tymheredd yn gostwng, mae'r dŵr yn rhewi ac yn ehangu, gan achosi toriadau yn yr arwyneb. Pan fo rhew'n toddi mae'n gadael bwlch o dan yr arwyneb, sy'n dymchwel dan bwysau traffig gan achosi twll yn y ffordd yn y pendraw.

Sut ydych chi'n penderfynu pa dyllau ar y ffordd i'w trwsio gyntaf?

Diogelwch yw’r flaenoriaeth bob amser. Rydym yn canfod diffygion yn ystod ein harchwiliadau rheolaidd ac maent yn cael eu hadrodd i ni gan y cyhoedd.   Mae ein swyddogion cynnal a chadw yn archwilio pob diffyg ac yn eu blaenoriaethu ar sail y risg y maent yn peri i ddefnyddwyr y ffyrdd.  Mae diffygion ar y ffyrdd yn syrthio i un o’r categorïau hyn:

  • Mae diffygion difrifol yn cael eu gwneud yn ddiogel o fewn 2 awr - mae’r rhain yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae’r risg i ddiogelwch yn uchel.  Weithiau byddwn yn gwneud gwaith trwsio dros dro er mwyn gwneud y ffordd yn ddiogel a gwneud gwaith trwsio parhaol yn nes ymlaen.
  • Mae diffygion diogelwch ar ffyrdd risg uwch yn cael eu gwneud yn ddiogel neu eu trwsio erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf.  Mae’r diffygion hyn yn aml yn gallu achosi risg ar unwaith o niwed i ddefnyddwyr y ffyrdd neu niwed i gerbydau.
  • Mae diffygion diogelwch ar ffyrdd risg is yn cael eu gwneud yn ddiogel neu eu trwsio o fewn 5 diwrnod gwaith. 
  • Mae diffygion cynnal a chadw yn cael eu trin o fewn 3 mis i’w hatal rhag gwaethygu i fod yn ddiffygion diogelwch.  Os yw’r diffyg cynnal a chadw ar ffordd risg uwch, yna byddwn yn ei drin o fewn un mis.
  • Mae gwaith trwsio wedi ei raglennu (fel gwaith trwsio parhaol) yn cael ei drefnu fel rhan o’n rhaglenni gwaith lleol i atal diffygion rhag gwaethygu.

Caiff gwaith mwy neu gymhleth (fel gwaith o roi wyneb mawr ar lonydd neu balmentydd) eu rhaglennu'n gyffredinol ar wahân.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng gwaith trwsio dros dro a pharhaol?

Ar gyfer gwaith trwsio parhaol rydym fel arfer yn torri darn siâp hirsgwar o ffordd o amgylch y twll gyda llif llafn diemwnt i roi ochrau glân, cyfwynebol. Rydym yn glanhau’r twll a'i baentio gyda rhwymwr bitwminaidd. Rydym yn llenwi’r twll gyda deunydd rhwymo bitwminaidd poeth, ei gribinio ac yna ei gywasgu gyda pheiriannau.

Mae gwaith trwsio dros dro yn fesur tymor byr i ddiogelu ffordd. Mae hyn yn golygu defnyddio deunyddiau oer wedi'u setio i lenwi'r twll nes y gallwnwneud gwaith trwsio parhaol.

A yw gwaith trwsio dros dro yn aneconomaidd?

Gallai gwaith trwsio mewn argyfwng fod yn ddatrysiad dros dro nes y gallwn wneud gwaith trwsio parhaol ond nid yw hyn yn aneconomaidd. Y peth pwysig yw gwneud y ffordd yn ddiogel i ddefnyddwyr nes y gellir gwneud gwaith trwsio parhaol.

Pa mor hir mae'n cymryd i drwsio twll yn y ffordd?

Mae hyn yn dibynnu ar faint a natur y twll neu'r diffyg. 

A fydd rhaid i chi gau unrhyw ffyrdd er mwyn trwsio tyllau yn y ffordd?

Rydym yn ceisio peidio cau’r ffordd lle bo’n bosibl, a chynnal atgyweiriadau gan ddefnyddio rheolyddion traffig dros dro (byrddau Stop/Mynd er enghraifft). Serch hynny, mae’n anochel y bydd atgyweirio tyllau yn golygu cau’r ffordd weithiau, pan mae’r gwaith yn cael ei gynnal.

Mae'n bosibl y byddai angen cau rhai ffyrdd gwledig culach gyda chyfyngiadau cyflymder uwch wrth i'r gwaith gael ei gynnal er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y ffordd.

Os yw’r ffordd yn gul ac mae’r gwaith yn cael ei gynnal ar dro yn y ffordd, mae angen i ni gau’r ffordd er diogelwch gweithwyr, defnyddwyr y ffordd a cherddwyr.

Pan fydd ffordd ar gau, byddwn yn ymdrechu i leihau amhariad gymaint â phosib ac agor y ffordd yn ystod yr oriau teithio prysuraf.

Mae'n llai tebygol y byddwn yn cau ffyrdd trefol lle mae cyfyngiad cyflymder o 30 milltir yr awr neu is, a lle gallwn gwblhau'r gwaith drwy gau darn o'r ffordd.

Ai ateb cyflym yn unig yw llenwi tyllau ar ffyrdd? Beth am y tymor hir?

Mewn sefyllfaoedd o argyfwng byddwn yn cynnal gwaith trwsio sydyn ac yna bydd gwaith trwsio parhaol yn digwydd gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.

A fyddai'n bosibl i chi rhoi arwyneb newydd ar bob ffordd ac atal tyllau rhag ffurfio o gwbl?

Ni fyddai'n bosibl diddymu tyllau yn y ffyrdd, gan eu bod yn ymddangos ar hap drwy'r amser. Bydd tyllau yn parhau i ddatblygu wrth i ffyrdd fynd yn hŷn a bydd y rhain yn cael eu trwsio fel rhan o'n rhaglen cynnal a chadw arferol. 

Yr unig ffordd i leihau diffygion newydd ydi cynnal rhaglen rhoi wyneb newydd mwy cyflawn. Mae gennym 1,700km o ffyrdd am gost o oddeutu £50,000+ y cilometr i roi wyneb newydd (yn amodol ar fath a lleoliad y ffordd). Dyma opsiwn anfforddiadwy ar gyfer trethdalwyr heb llawer o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth ganolog i gynnal ein ffyrdd.

Beth yw cost trwsio un twll yn y ffordd?

Ar gyfartaledd tua £30 ond mae hyn yn amodol ar faint a mesuriad.

Sut ydych chi'n gwybod ble mae'r rhai gwaethaf?

Rydym yn archwilio ein ffyrdd i gyd am ddiffygion diogelwch. Mae amlder ‘rhain yn dibynnu ar sawl ffactor, fel y defnydd a wneir o'r ffordd. Wrth gwrs mae'n bosibl i ddiffygion a thyllau ddigwydd rhwng archwiliadau - mae adroddiadau gan y cyhoedd yn ddefnyddiol iawn er mwyn eu blaenoriaethu a delio â'r diffygion.

Sut ydw i'n rhoi gwybod am dwll yn y ffordd? Fyddwch chi'n dod i'w drwsio?

Y ffordd fwyaf effeithlon i drigolion roi gwybod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am dwll yn y ffordd neu ddiffyg ar y ffordd yw llenwi ffurflen ar-lein.  Mae'r adroddiadau hyn yn mynd yn uniongyrchol i'r tîm i’w hasesu a’u trin.  Gall trigolion heb fynediad i'r rhyngrwyd ffonio gydag adroddiad o dwll yn y ffordd ar: 01492 575337

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?