Cyfeirnod: CCBC - 043842
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (A547 Abergele Road/Llanddulas Road, Abergele - Terfyn Cyflymder) 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud y Gorchymyn a enwir uchod o dan Adrannau 82(2) 83(2) 84(1) ac 84(2) a Rhan IV o Atodlen 9 o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 a fydd yn gwahardd unrhyw un rhag gyrru unrhyw gerbyd modur ar gyflymder sydd dros y terfyn cyflymder ar hyd y darnau o ffordd fel a nodir yn Atodlen 1 a 2 isod. Mae’r Gorchymyn a wnaed yn flaenorol sef Gorchymyn (Ffyrdd Cyfyngedig) (Rhif 8) Cyngor Sir Ddinbych 1964 trwy hyn yn cael ei ddirymu cyhyd a’i fod yn effeithio ar y darn o ffordd a ddisgrifir yn Atodlen 3.
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn, a ddaw i rym ar 26 Mehefin 2023 ar wefan y Cyngor.
Os ydych yn dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo, ar y sail nad yw'n dod o fewn y pwerau a roddir gan Ddeddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd, mewn perthynas â'r Gorchymyn, a rhyw amod o'r Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaed dan y ddeddf, gallwch wneud cais i'r Uchel Lys i'r perwyl hwn o fewn chwe wythnos i ddyddiad y Rhybudd hwn.
Atodlen 1 - Terfyn Cyflymder 50mya
A547 Abergele Road / Llanddulas Road
- O bwynt 40 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Beulah Avenue i bwynt 40 metr i’r gorllewin â’r gyffordd â Pharc Busnes Gogledd Cymru
Atodlen 2 - Terfyn Cyflymder Cenedlaethol Ffordd Heb Gyfyngiad yn weithredol
Bryn Dulas, Llanddulas
O’i chyffordd â Ffordd Llindir i’w chyffordd â Beulah Avenue
Atodlen 3 - Dirymiadau
Beulah Road
- O’i chyffordd â Ffordd yr A55 Abergele-Llanddulas-Bae Colwyn i bwynt 10 llath o Lysfaen ac ar ochr Llysfaen y gyffordd â Ffordd Arnold House – hyd tua 870 llath
Dyddiedig: 21 Mehefin 2023
Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Tudalen Nesaf: Gorchymyn