Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Siambar Wen, Llanrwst / Bro Garmon - Gwahardd Gyrru: Hysbysiad


Summary (optional)

Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn yw:

  • atal difrod i'r ffordd
  • atal traffig anaddas, o unrhyw fath, rhag defnyddio'r ffordd
start content

Cyfeirnod: CCBC - 045241

Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Siambar Wen Llanrwst / Bro Garmon) (Gwahardd Gyrru) 2024


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud y Gorchymyn a enwir uchod o dan Adrannau 1 a 2 o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984, a’i effaith fydd gwahardd cerbydau rhag mynd (ac eithrio ar gyfer mynediad) ar hyd y darn ffordd fel a nodir yn yr Atodlen isod. Bydd eithriadau yn cael eu rhoi yn y Gorchymyn i ganiatáu mynediad i breswylwyr ac at ddibenion gwaith cynnal, trwsio a gwaith cyffelyb.

Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a'r cynllun, a fydd yn dod i rym ar 3 Mai 2024 ar wefan y Cyngor. Os ydych am gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth ynddo ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddir gan Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad o’r Ddeddf honno neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani, o ran y Gorchymyn, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn, cyn pen chwe wythnos o’r dyddiad hwn.

Atodlen - Gwahardd Gyrru ac eithrio ar gyfer mynediad

Siambar Wen, Llanrwst / Bro Garmon

  • O bwynt 30 metr tua’r dwyrain  o’i chyffordd â‘r A470 Ffordd Berthddu i’w chyffordd â’r B5427 Ffordd Cae’r Melwr i Ffordd Nebo

 

Dyddiedig: 1 Mai 2024

CeriWilliamsSignature

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol


Tudalen Nesaf: Gorchymyn

end content