Cyfeirnod: CCBC - 042853
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffyrdd Amrywiol Penmaenmawr) (Gwahardd Aros) 2023 - Rhan 1
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud y Gorchymyn a enwir uchod o dan Adrannau 1 a 2 o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984, y bydd ei effaith yn gwahardd cerbydau rhag aros ar unrhyw adeg ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod. Mae’r cynigion mewn perthynas â Water Street and Cwmlws Lane wedi cael eu gohirio.
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a'r cynllun, a fydd yn dod i rym ar 22 Rhagfyr 2023 ar wefan y Cyngor. Os ydych am gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth ynddo ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddir gan Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad o’r Ddeddf honno neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani, o ran y Gorchymyn, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn, cyn pen chwe wythnos o’r dyddiad hwn.
Atodlen - Dim aros ar unrhyw adeg
Hen Ffordd Conwy
- Ochr y gogledd: o bwynt 15 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Treforris Road am bellter o 9 metr i gyfeiriad y dwyrain.
Treforris Road
- Ochr y de: o bwynt 50 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Cae Cyd Road am bellter o 70 metr i gyfeiriad y dwyrain.
Graiglwyd Road
- Y ddwy ochr: o bwynt 125 metr i’r gogledd ddwyrain o’i chyffordd â Groesffordd Lane am bellter o 25 metr i gyfeiriad y gogledd ddwyrain.
- Ochr y de orllewin: o bwynt 15 metr i’r gorllewin o’i chyffordd ag Alexandra Park am bellter o 12 metr i gyfeiriad y dwyrain.
Ysguborwen Road
- Ochr y gogledd: o bwynt 10 metr o’i chyffordd â Groesffordd Lane at bwynt 14 metr o’i chyffordd â Treforris Road.
Treforris Road
- Ochr y dwyrain: O'i chyffordd ag Ysguborwen Road am bellter o 20 metr i gyfeiriad y de. O'i chyffordd â Gwynan Park am bellter o 18 metr i gyfeiriad y gogledd.
Gwynan Park
- Ochr y gogledd: o’i chyffordd â Treforris Road am bellter o 3 metr i gyfeiriad y gorllewin.
Brynmor Terrace
- Y ddwy ochr: o’i chyffordd â Station Road West am bellter o 15 metr i gyfeiriad y dwyrain.
Station Road West
- Ochr y dwyrain: o bwynt 10 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Brynmor Terrace am bellter o 20 metr i gyfeiriad y de.
Ffordd wasanaethu Esplanade
- Y ddwy ochr: o’i mynedfa orllewinol ag Esplanade at ei mynedfa ddwyreiniol ag Esplanade.
David’s Lane
- Y ddwy ochr: o'i chyffordd ag Erasmus Street am bellter o 21 metr i gyfeiriad y de.
Old Mill Road
- Ochr y dwyrain, o bwynt 13 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Chlos Hen Felin am bellter o 26 metr i gyfeiriad y de ddwyrain.
Derwen Road
- Y ddwy ochr: o’i chyffordd ag Water Street am bellter o 14 metr i gyfeiriad y gogledd ddwyrain.
Brynmor Terrace
- Ochr y gogledd ddwyrain: o bwynt 10 metr i’r gogledd orllewin o Ffordd Bangor am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd orllewin.
St John’s Park East
- Y ddwy ochr: o’i chyffordd â’r Stryd Fawr am bellter o 10 metr i gyfeiriad y gogledd
Y Stryd Fawr
- Ochr y gogledd ddwyrain; o bwynt 17 metr i’r gorllewin o St John’s Park East am bellter o 30 metr i gyfeiriad y dwyrain.
Cemlyn Park
- Y ddwy ochr: o’i chyffordd â Church Road am bellter o 10 metr i gyfeiriad y gogledd ddwyrain.
Church Road
- Ochr y gogledd ddwyrain: o’i chyffordd â Cemlyn Park am bellter o 10 metr i gyfeiriad y gogledd orllewin a’r de ddwyrain.
Derwen Road
- Ochr y gorllewin: o’i chyffordd â Chapel Street am bellter o 11 metr i gyfeiriad y ddeOchr y dwyrain: o’i chyffordd â Chapel Street am bellter o 6 metr i gyfeiriad y dde
Hen Ffordd Conwy / Conwy Old Road
- Ochr Ogleddol: 14 metr o’i chyffordd â Graiglwyd Road am bellter o 8 metr i gyfeiriad y gogledd ddwyrainOchr ddeheuol: o’i chyffordd â Graiglwyd Road am bellter o 22 metr i gyfeiriad y gogledd ddwyrain
Graiglwyd Road
- Y ddwy ochr: o’i chyffordd â Hen Ffordd Conwy am bellter o 12 metr i gyfeiriad y dde ddwyrain
Dyddiedig: 20 Rhagfyr 2023
CeriWilliamsSignature
Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Tudalen Nesaf: Gorchymyn