Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Atal A Chyfyngu Aros A Mannau Parcio Oddi Ar Y Stryd – Promenâd Gorllewinol, Bae Colwyn


Summary (optional)

Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn yw:

  • i reoli traffig a darparu parcio cynaliadwy.
start content

Cyfeirnod: CCBC - 042854

Gorchymyn (Diwygiad Rhif 1) 2023 Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Atal a Chyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2006 – Promenâd y Gorllewin Bae Colwyn


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud y Gorchymyn a enwir uchod o dan Adrannau 1(1), 2(1) i (3) a Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, i ddiwygio Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2006 i ymestyn y Parth Parcio wedi’i Reoli ar hyd y darn hwnnw o Bromenâd y Gorllewin Bae Colwyn fel y manylir isod.

Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a'r cynllun, a fydd yn dod i rym ar 29 Ebrill 2024 ar wefan y Cyngor. Os ydych am gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth ynddo ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddir gan Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad o’r Ddeddf honno neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani, o ran y Gorchymyn, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn, cyn pen chwe wythnos o’r dyddiad hwn.

Atodlen 1 (Taliadau ar gyfer Tystysgrif Esgusodi a Thrwyddedau Parcio)

Tystysgrif esgusodi fasnachol

Tâl: £17.00 y cerbyd, y dydd, hyd at gyfnod o wythnos

Atodlen 2 (Taliadau rhwng 1 Mai a 30 Medi bob blwyddyn)

Promenâd y Gorllewin, Bae Colwyn; o’i gyffordd â Marine Road am bellter o 255 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin

  • Safle y gall cerbyd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio
  • Diwrnodau gweithredu: Dydd Llun i ddydd Sul (yn cynnwys y diwrnodau hynny)
  • Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyngiad
  • Oriau y codir tâl: 10am tan 4pm:
    • Math o gerbyd: Ceir a faniau ysgafn a charafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau: Hyd at 4 awr £4.50, Mwy na 4 awr £6.50
  • Oriau y codir tâl: 4pm tan 10am:
    • Math o gerbyd: Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau: Dim tâl
  • Oriau y codir tâl: 4pm tan 11pm ac 8am tan 10am:
    • Math o gerbyd: Carafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau: Dim tâl

Atodlen 3 (Taliadau rhwng 1 Hydref a 30 Ebrill bob blwyddyn)

Promenâd y Gorllewin, Bae Colwyn; o’i gyffordd â Marine Road am bellter o 255 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin

  • Safle y gall cerbyd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio
  • Diwrnodau gweithredu: Dydd Llun i ddydd Sul (yn cynnwys y diwrnodau hynny)
  • Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyngiad
  • Oriau y codir tâl: 10am tan 4pm:
    • Math o gerbyd: Ceir a faniau ysgafn a charafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau: Hyd at 2 awr £2.00, Hyd at 4 awr £3.20, Mwy na 4 awr £4.50
  • Oriau y codir tâl: 4pm tan 10am:
    • Math o gerbyd: Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau: Dim tâl
  • Oriau y codir tâl: 4pm tan 11pm ac 8am tan 10am:
    • Math o gerbyd: Carafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau: Dim tâl

Atodlen 6 (Taliadau ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas i Bobl Anabl)

Promenâd y Gorllewin, Bae Colwyn; o’i gyffordd â Marine Road am bellter o 255 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin

  • Safle y gall cerbyd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio
  • Diwrnodau gweithredu: Dydd Llun i ddydd Sul (yn cynnwys y dyddiadau hynny)
  • Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyngiad
  • Oriau y codir tâl: 24 awr:
    • Math o gerbyd: Deiliaid bathodyn i bobl anabl yn unig
    • Graddfa'r prisiau: Dim tâl

 

Dyddiedig: 22 Tachwedd 2023

CeriWilliamsSignature

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol


Tudalen Nesaf: Gorchymyn

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?