Ar gyfer beth mae Gorchymyn Rheoli Traffig?
Rydym yn cyflwyno Gorchmynion Rheoli Traffig i newid cyfyngiadau parcio a chyfyngiadau traffig ar ffyrdd yn Sir Conwy. Rydym yn ystyried newidiadau sy’n atal perygl i ddefnyddwyr y priffyrdd ac yn cynnal llif traffig. Maent yn ymdrin â phethau megis:
- Gwahardd parcio drwy gydol y diwrnod neu ran o’r diwrnod
- Caniatáu parcio am gyfnod cyfyngedig yn unig neu gan fath penodol o gerbyd yn unig
- Cyfyngu ar symudiadau cerbydau penodol er enghraifft dim mynediad, un ffordd, dim troi i’r dde neu’r chwith, cyfyngiadau pwysau
- Newid terfynau cyflymder
Fel arfer, ni ellir defnyddio Gorchymyn Rheoli Traffig i:
- Ddynodi mannau parcio ar y priffyrdd ar gyfer unigolion, ac eithrio dan amgylchiadau penodol ar gyfer gyrwyr anabl
- Cyfyngu ar barcio ar strydoedd preswyl oni bai bod angen am barcio preswyl sy’n bodloni meini prawf penodol
- Atal rhwystr, yn benodol ar ddreifiau preifat
- Atal mynediad cerbydau danfoniadau
Sut ydym ni'n cyflwyno Gorchymyn Rheoli Traffig?
Mae Gorchmynion Rheoli Traffig yn ddewis olaf a byddwn yn osgoi cyfyngu symudiad traffig os yn bosibl.
Byddwn yn archwilio unrhyw bryderon a gyflwynir gan drigolion. Byddwn yn ceisio rhoi gwybod i chi o fewn 6 wythnos os credwn mai Gorchymyn Rheoli Traffig yw’r ffordd orau o ddatrys y broblem. Os mai dyna’r achos, bydd yn cael ei gynnwys ar raglen Gorchymyn Rheoli Traffig.
Mae’r rhaglen Gorchymyn Rheoli Traffig yn amserlen dreigl 3 blynedd, gyda gwahanol ardaloedd o’r sir yn cael eu hystyried bob blwyddyn.
Amserlen rhaglen Gorchymyn Rheoli Traffig 2022 - 2026 (PDF, 1MB)
Gall gymryd hyd at 18 mis i brosesu Gorchymyn Rheoli Traffig newydd.
Mae’r broses ar gyfer datblygu Gorchymyn Rheoli Traffig yn cynnwys:
- Ymgynghoriad anffurfiol gyda grwpiau ac unigolion cysylltiedig
- Hysbysebu’r cynigion yn y wasg leol, ar wefan y cyngor a gosod hysbysiadau ar y stryd
- Ystyried sylwadau a gwrthwynebiadau (os na allwn ddatrys gwrthwynebiadau, gallai hyn ein hatal rhag cwblhau’r Gorchymyn Rheoli Traffig)
- Cadarnhau a hysbysebu’r Gorchymyn Rheoli Traffig newydd
- Cwblhau arwyddion traffig a marciau ffordd
Sut allaf i wneud sylwadau ar y cynigion Gorchymyn Rheoli Traffig?
Mae cynigion Gorchymyn Rheoli Traffig yn cael eu hysbysebu ar wefan y cyngor, yn y wasg leol ac mae copi caled yn cael ei osod yn y safle dan sylw. Mae 28 diwrnod calendr i gyflwyno gwrthwynebiad.