Bydd angen i chi wneud cais am benderfyniad ffurfiol ynghylch a yw’r cyngor yn dymuno cymeradwyo’r manylion hyn cyn i chi ddechrau ar y gwaith dymchwel. Fe elwir hyn yn “gais cymeradwyaeth ymlaen llaw”. Cysylltwch â ni ac fe eglurwn ni’r broses.
Os yw’r Adeilad mewn Ardal Gadwraeth
Os yw'r adeilad mewn ardal gadwraeth neu'n adeilad rhestredig yna bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig hefyd. Mae'n drosedd gwneud unrhyw waith addasu neu ddymchwel i adeilad rhestredig heb y caniatâd y cyfeiriwyd ato (Rhagor o wybodaeth am ardaloedd cadwraeth).
Hefyd rhaid i'r perchennog neu'r contractwr dymchwel sicrhau bod y partïon canlynol yn cael copi o'r hysbysiad a gyflwynir i'r Cyngor.
- Perchnogion unrhyw adeilad sydd wrth ymyl yr adeilad sy'n cael ei ddymchwel
- Awdurdod Nwy
- Awdurdod Dŵr
- Awdurdod Trydan
Adran 80 Rhybudd Dymchwel