Rhaid i geisiadau datblygu yn yr ardaloedd hyn barchu eu cymeriad arbennig. Yn ogystal â hyn, mae mesurau rheoli mwy caeth yn bodoli er mwyn cadw neu ehangu ar yr amgylchedd. Yn gryno, mae hawliau datblygu a ganiateir naill ai'n fwy cyfyngol nag mewn mannau eraill, neu efallai nad ydynt yn berthnasol o gwbl; mae angen ‘Caniatâd Ardal Gadwraeth’ ar gyfer y rhan fwyaf o waith dymchwel, a rhaid rhoi rhybudd o chwe wythnos os oes unrhyw fwriad i dorri, tocio neu frigdorri coeden.
Gall yr Adran hefyd roi gwybod i chi am unrhyw waith rydych yn bwriadu ei wneud, y cymeradwyaethau ffurfiol a allai fod eu hangen, a grantiau atgyweirio a allai fod ar gael.