Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyngor cyn gwneud cais


Summary (optional)
Cyngor i ddeiliad tai, rhai nad ydynt yn ddeiliaid tai a chyngor cyffredinol
start content

Rydym yn cynnig dwy ffurf wahanol o wasanaethau ymholi. Caiff eu hesbonio’n fanylach isod

  1. Ymholiadau i ganfod a oes angen caniatâd ar eich cais
  2. Ymholiadau i ganfod beth rydym yn ei feddwl o’ch cais (gwasanaeth cyn gwneud cais statudol)

Gwybodaeth ddefnyddiol i Ddeiliaid Tai ar y datblygiadau y cymeradwyir

Gelwir estyniadau neu ychwanegiadau i’ch tŷ nad ydynt yn gofyn am ganiatâd cynllunio yn hawliau datblygu a ganiateir. Nid yw'r hawliau hyn yn berthnasol i fflatiau a fflatiau deulawrac mae angen caniatâd cynllunio llawn bob amser ar gyfer anheddau newydd. Y ffordd orau i gael gwybod yw defnyddio canllawiau’r Planning Portal. Bydd hyn yn eich help i bennu ar y math o wasanaeth ymholi sydd ei angen arnoch. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio’r hawliau datblygu a ganiateir a’r gwahanol gyfyngiadau sy'n berthnasol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr opsiwn Cymraeg gan fod rheolau gwahanol yn Lloegr.

Ar gyfer adeiladau rhestredig, cadwraeth neu erthygl 4 ardaloedd cyfeiriad sy’n fwy cyfyngedig, defnyddiwch ganllaw gweledol y Planning Portal.

Ymholiadau i ganfod oes angen caniatâd ar eich cais

Mae’r gwasanaeth hwn am ddim ar hyn o bryd, a bydd yn dweud wrthoch chi a oes angen caniatâd cynllunio arnoch.   I wneud cais, cwblhewch y ffurflenni isod.  Yna byddwn yn darparu barn ysgrifenedig i chi ar a oes angen cais am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad adeilad rhestredig ar eich cais.

Ymholiadau gan ddeiliaid tai

Gwnewch gais gan ddefnyddio’r ffurflen gais am gyngor ar gyfer datblygiadau deiliaid tai (nad yw'n statudol) os ydych chi'n dymuno cynnal:

  • gwelliannau i’ch cartref
  • estyniadau neu addasiadau i’ch cartref, neu
  • waith yn eich gardd. 

Y ffordd orau i gael gwybod a oes angen caniatâd cynllunio arnoch yw defnyddio pecyn rhyngweithiol y Planning Portal, fel y disgrifir uchod.

Datblygiadau nad ydynt yn ddeiliad tŷ

Gwnewch gais gan ddefnyddio’r ffurflen gais am gyngor ar gyfer datblygiadau nad ydynt ar gyfer deiliad tŷ (anstatudol) ar gyfer bob gwaith arall nad yw ar gyfer deiliad tai. Er enghraifft:

  • newid defnydd i fusnes
  • codi adeiladau masnachol
  • codi anheddau neu randai

Dylech wneud cais am hysbyseb a chydsyniad adeilad rhestredig gan ddefnyddio’r ffurflen gais am gyngor hon.

Mae'n rhaid i’ch ymholiad fod yn ysgrifenedig a rhaid i chi ddarparu'r holl fanylion y gofynnwn amdanynt, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth arall rydych yn tybio i fod yn berthnasol.  Fel arall, efallai y bydd yn rhaid i ni ddychwelyd eich ymholiad atoch yn gofyn am ragor o wybodaeth.  Rydym yn ceisio ymateb i’r ymholiadau uchod cyn pen 28 diwrnod.

Ymholiadau i ganfod beth rydym yn ei feddwl o’ch cais (proses statudol)

Mae cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio yn rhan bwysig o'r broses gynllunio. Byddwn yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am deilyngdod eich cais.  Mae'n golygu hefyd y gall unrhyw broblemau posibl gael eu datrys cyn cyflwyno cais, gellir gwella ansawdd ceisiadau, yn ogystal â gwneud penderfyniadau cyflymach. Mae gan y broses fwy o sicrwydd ac eglurder oherwydd gellir nodi materion a gofynion cynllunio yn gynnar a chyn i gais gael ei gyflwyno.

Mae'r broses yn ymwneud ag ymholiadau am ganiatâd cynllunio llawn neu amlinellol.  Nid yw'n berthnasol i gyngor am ganiatâd hysbysebu a chynigion am ganiatâd adeilad rhestredig yn unig.  

O 16 Mawrth, 2016, cafodd system codi tâl statudol cyn gwneud cais ei chyflwyno. Mae hyn yn golygu y bydd tâl ar gyfer canfod a yw eich cais yn dderbyniol.  Gweler y ddogfen Ffioedd Ymholi Statudol Cyn Gwneud Cais am y ffi berthnasol.

Unwaith y byddwn wedi cael eich ymholiad dilys, byddwn yn ei ateb o fewn 21 diwrnod oni bai y cytunir ar estyniad amser. Fel isafswm, byddwn yn darparu'r wybodaeth ganlynol i chi:

Deiliad Tŷ:

  • Hanes cynllunio perthnasol y safle.
  • Polisïau cynllun datblygu perthnasol y bydd y cynnig datblygu yn cael ei asesu yn eu herbyn.
  • Canllaw cynllunio atodol perthnasol megis dyluniad a chadwraeth)
  • Unrhyw ystyriaethau cynllunio o bwys eraill, megis edrych dros, colli preifatrwydd, colli golau neu gysgodi.
  • Asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig, yn seiliedig ar y wybodaeth uchod.

Ar gyfer yr holl gynigion datblygu eraill, dylai ymgeiswyr dderbyn yr holl wybodaeth a amlinellir uchod, yn ogystal â:

  • p’un a yw unrhyw gyfraniadau Adran 106 neu Ardoll Isadeiledd Cymunedol yn debygol o gael eu ceisio, ac arwydd o gwmpas a swm y cyfraniadau hyn.

Os bydd y datblygiad ar gyfer datblygiad mawr neu os yw'r cais yn debygol o fod yn gymhleth, yna bydd angen i chi roi cymaint o fanylion ag y bo modd. Os bydd angen, bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu gydag ymgyngoreion allweddol eraill i asesu eich cynigion ac mewn rhai achosion, efallai y cynhelir ymweliad safle. Fodd bynnag, mae hyn yn ôl ein disgresiwn.

Os ydych yn chwilio am gyngor ar gyfraniadau tai fforddiadwy, bydd angen i chi gyflwyno’r Ffurflen Hyfywedd Tai Fforddiadwy, oni bai bod y cynnig yn disgyn o fewn unrhyw un o'r eithriadau canlynol (PDF).

Nodwch fod unrhyw gyngor neu farn cyn gwneud cais a roddir gan swyddogion cynllunio yn seiliedig ar farn y swyddog anffurfiol ac nid ydynt yn ein hymrwymo ni na’r swyddogion mewn unrhyw ffordd.

Gwybodaeth i’w chyflwyno gyda’ch ymholiad

Darperir gwybodaeth ac arweiniad pellach gyda'r ffurflenni ond rhaid i ymholiad dilys cyn gwneud cais gynnwys:

  • ffurflen gais, cynllun lleoliad a gwblhawyd i raddfa gydnabyddedig gyda chyfeiriad y gogledd yn pennu'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef
  •  a ffi ymgeisio statudol. Heb dalu ffi briodol, ni fyddwn dan unrhyw rwymedigaeth i dderbyn eich ffurflen ymholiad cyn gwneud cais. Ni fyddai'r gwasanaeth cyn ymgeisio yn dechrau nes iddynt dderbyn y ffi gywir.

Y ffi ar gyfer ymchwiliad deiliad tŷ yw £25.

Defnyddiwch y ffurflenni canlynol wrth ddefnyddio'r broses ymchwilio statudol:

  • Ffurflen Gais am Gyngor ar gyfer Datblygiad Deiliaid Tai (Statudol)
  • Ffurflen Gais am Gyngor ar gyfer Datblygiad nad ydynt gan Ddeiliaid Tai (Statudol)


Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth am y broses hon:

CLA658 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn-ymgeisio) (Cymru) 2016

Adeiladu a chynllunio (Llywodraeth Cymru)

Ffurflenni anstatudol (ymholiadau i ganfod a oes angen caniatâd ar eich cais)


Ffurflenni Statudol
(ymholiadau i ganfod beth rydym yn ei feddwl o’ch cais)

 

Cysylltwch â ni

I gael cyngor cyffredinol cysylltwch â’n swyddog dyletswydd. Mae gwasanaeth peiriant ateb pan na fydd y swyddog dyletswydd ar gael, gadewch neges a byddwn yn cysylltu’n ôl gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.

Gwasanaeth Swyddog Cynllunio Ar Ddyletswydd

O ddydd Llun 29 Ionawr, 2018 bydd y gwasanaeth cynghori ar gynllunio ar gael yn ystod yr adegau canlynol yn unig:

  • Dydd Llun 09:30-13:00
  • Dydd Mercher 13:00-16:30
  • Dydd Gwener 13:00-16:30

Swyddog Rheoli Datblygiadau ar Ddyletswydd
Ffôn: 01492 575247
E-bost: cynllunioplanning@conwy.gov.uk
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?