Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 14 Rhagfyr, 2018 a 25 Ionawr, 2019.
Dyma’r ddau bapuryr ymgynghorwyd arnynt fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN):
- Papur Ymgynghori 1 (PDF, 1.25Mb) - Mae hwn yn amlinellu’r materion blaenoriaeth sy’n wynebu Conwy ac mae’n awgrymu gweledigaeth a chyfres o amcanion ar gyfer y CDLlN.
- Papur Ymgynghori 2 (PDF, 8.04Mb) - Mae hwn yn amlinellu’r lefel twf strategol (faint o dai fydd eu hangen a nifer y swyddi y bydd y CDLl yn darparu ar eu cyfer), yr hierarchaeth aneddiadau (sut y caiff yr aneddiadau eu hasesu o ran cyfleusterau a gwasanaethau, maint a phoblogaeth) a'r dyraniad gofodol (lle y byddwn yn rhoi lefel cytunedig o dai a swyddi.)
Rydym wedi casglu’r sylfaen dystiolaeth bresennol ac wedi rhoi cyfres o Bapurau Testun at ei gilydd, gellir eu gweld yma.
Rydym wedi cynhyrchu fideo crynodeb sy’n esbonio’r broses o lunio’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.
Trawsgrifiad Fideo (PDF, 21Kb)
Canlyniadau’r ymgynghoriad
Daeth cyfanswm o 124 o sylwadau i law ar y ddwy ddogfen ymgynghori. Gellir eu gweld ar y system ymgynghori neu yn y dogfennau isod.
Papur Ymgynghori 1 - Adroddiad Sylwadau
Papur Ymgynghori 2 - Adroddiad Sylwadau