Mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol ar y CDLl ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref.
Os, o ganlyniad i fonitro ac adolygu, yr ymddengys nad yw'r polisiau a'r dyraniadau yn cael eu diwallu ac nad yw'r datblygiad yn symud ymlaen mewn modd cynaliadwy neu amserol, bydd y Cyngor yn rhagweithiol wrth ddefnyddio ei bwerau i ymateb i amgylchiadau newidiol.
Gellir dechrau'r mecanweithiau canlynol:
- Camau i ddwyn ymlaen safleoedd i ddatblygu, lle bo'n bosibl, mewn partneriaeth gyda thirfeddianwyr a datblygwyr
- Camau i ddwyn ymlaen safleoedd datblygu ar dir a ddatblygwyd eisoes
- Defnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol i ddatgloi safleoedd
- Gweithio gyda phartneriaid i ddwyn ymlaen buddsoddiad mewn isadeiledd
- Adolygu dyraniadau tir neu bolisiau yn y Cynllun Datblygu Lleol
Adroddiad Monitro Blynyddol 2019
Adroddiad Monitro Blynyddol 2018
Adroddiad Monitro Blynyddol 2017
Adroddiad Monitro Blynyddol 2016
Adroddiad Monitro Blynyddol 2015