A: Rhaid i wrych uchel gael ei ffurfio yn llwyr neu'n bennaf gan linell o ddau neu fwy o goed bytholwyrdd, neu rannol fytholwyrdd, gydag uchder o fwy na 2 fetr uwchlaw lefel y ddaear. Felly rhaid gofyn y cwestiynau canlynol:
- A yw'r gwrych yn ymddwyn i ryw raddau fel rhwystr i oleuni neu fynediad, er efallai bod bylchau ynddo?
- A yw'n cynnwys dau neu fwy o goed neu brysgwydd ac a ydynt mewn llinell yn fras?
- A yw'r gwrych yn cynnwys prysgwydd bytholwyrdd neu rannol fytholwyrdd yn llwyr neu'n bennaf?
- A yw'r gwrych yn uwch na 2 fetr?
- A yw'r gwrych, oherwydd ei uchder, yn cael effaith negyddol ar fwynhad rhesymol o'r cartref neu'r ardd?
Os mai'r ateb i'r holl gwestiynau hyn yw YDI mae'n debygol o fod yn wrych uchel at bwrpasau'r Ddeddf.
Nid oes diffiniad unigol o'r term rhannol fytholwyrdd yn y Ddeddf, ond fel arfer mae hyn yn golygu fod y gwrych yn parhau i fod â rhai dail gwyrdd neu'n fyw drwy gydol y flwyddyn. Er enghraifft, mewn rhai rhannau o'r wlad, caiff coed prifat eu cynnwys yn y diffiniad hwn, fodd bynnag, y pellaf i'r gogledd rydych yn byw, y mwyaf tebygol yw eich gwrych prifet o golli ei ddail dros y gaeaf, ac felly ni fydd yn cael ei gynnwys dan y diffiniad hwn.
Mae gwrychoedd ffawydd yn debyg o gael eu heithrio, oherwydd er bod rhywfaint o dyfiant arnynt am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, mae'n frown ac yn farw.