Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rheoli Chwyn


Summary (optional)
start content

Caiff wynebau caled priffyrdd mabwysiedig eu trin bob blwyddyn i reoli chwyn.  Gall chwyn ddinistrio wynebau pe na bai’n cael ei drin a chreu peryglon baglu. Fel arfer, rhoddir y driniaeth ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf.

Mae’n drosedd caniatáu i fathau penodol o chwyn ledaenu ar y briffordd o dir cyfagos, mae’r mathau hyn wedi’u rhestru yn Neddf Chwyn 1959.

Sut caiff chwyn eu trin?

Caiff y chwyn eu chwistrellu gyda chwyn laddwr sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae'r chwyn laddwr a ddefnyddiwn â gwenwyn isel iawn ac mae'n ddiogel i'w ddefnyddio mewn mannau agored a ddefnyddir gan y cyhoedd a'u hanifeiliaid anwes.

Llysiau'r Gingroen

Gall Llysiau’r Gingroen achosi salwch difrifol neu hyd yn oed ladd da byw pe bwyteir digon ohono.

Mae'n ddyletswydd arnom i reoli Llysiau'r Gingroen ar dir priffyrdd gyferbyn â chaeau ble mae da byw yn pori neu ble caiff da byw eu bwydo. Nid yw'n bolisi gan y Cyngor i reoli Llysiau'r Gingroen yn unman arall gan ei fod yn rhan bwysig o fioamrywiaeth Conwy. Weithiau mae'n rhaid i staff y Cyngor ei dynnu â llaw os yw'r driniaeth gemegol yn peri risg i rywogaethau eraill o blanhigion neu anifeiliaid.

Clymlys Japan

Mae Clymlys Japan yn fath dyfal o chwyn sy'n gallu addasu a thyfu o ddarnau bach o'r planhigyn a lledu'n hawdd iawn.

Rydym yn trin yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan Glymlys Japan yn rheolaidd er mwyn ei gadw dan reolaeth.

Mae’n bosibl y bydd y Cyngor hefyd yn gofyn i berchnogion tir neu berchnogion tai reoli twf Clymlys Japan ar eu heiddo eu hunain os oes perygl iddo ledaenu i dir y Cyngor (megis ffordd neu ffin eiddo ysgol).  Os na fydd perchnogion yn cymryd y camau priodol, mae’n bosibl y bydd y Cyngor yn trin y Clymlys Japan hyd at ffin yr eiddo ac yn adennill y costau gan berchnogion yr eiddo.

Sylwer: Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am drin chwyn ymledol ar eiddo preifat.  Cyfrifoldeb perchennog y tir neu eiddo yw hyn. Os hoffech chi gyngor neu ganllawiau ar sut i ymdrin â rhywogaethau chwyn ymledol megis Clymlys Japan ar eich eiddo, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Cysylltwch â ni

I roi gwybod am achosion o chwyn ymledol ar dir y Cyngor, cysylltwch â ni drwy lenwi’r ffurflen isod.  Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch chi os gwelwch yn dda.

Llenwch ein ffurflen gyswllt ar-lein

  • Ffôn: 01492 575337
end content