Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Ailgylchwch eich podiau coffi gyda Podback

Ailgylchwch eich podiau coffi gyda Podback


Summary (optional)
Gan eich helpu chi i ailgylchu eich podiau coffi (te a siocled poeth) o’ch cartref
start content

Mae Podback yn wasanaeth ailgylchu podiau coffi nid er elw. Fe’i crëwyd mewn partneriaeth ag enwau mwyaf adnabyddus y byd podiau coffi, sef Nespresso, NESCAFÉ Dolce Gusto a TASSIMO, i gynnig ffyrdd hawdd a syml i bobl sy’n mwynhau blas podiau coffi eu hailgylchu nhw.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chwmni Cydweithredol Crest yn cydweithio â Podback i gynnig y gwasanaeth newydd hwn am ddim, gan eich helpu chi i ailgylchu eich podiau coffi (te a siocled poeth) o’ch cartref.

Sut i gymryd rhan

Mae’n hawdd cymryd rhan - dilynwch y camau isod:

  1. Cofrestrwch ac archebwch eich bagiau ailgylchu AM DDIM ar wefan Podback.
  2. Bydd Podback yn anfon dau rolyn o fagiau i chi ailgylchu eich podiau coffi alwminiwm  neu blastig, ynghyd â thaflen gyfarwyddiadau.
  3. Ar ôl i chi gael eich bagiau, dilynwch y cyfarwyddiadau a rhowch y bagiau allan bob pythefnos ar eich diwrnod casglu tecstilau ac eitemau trydanol. Os ydych chi’n byw mewn ardal wledig, trefnwch gasgliad drwy ffonio Crest ar 01492 596783.

Pa fath o bodiau coffi allwch chi eu hailgylchu?

Dylech ailgylchu podiau plastig ac alwminiwm gan ddefnyddio bagiau casglu Podback. Wrth gofrestru ar wefan Podback, gofynnir i chi pa bodiau rydych chi’n eu defnyddio. Gofynnir hyn er mwyn i chi gael y bag cywir – bagiau gwyn ar gyfer podiau alwminiwm, bagiau gwyrdd ar gyfer podiau plastig. Bydd Podback yn anfon eich bagiau a chyfarwyddiadau llawn i chi ac fe allwch chi gychwyn arni ar unwaith!

Podiau coffi alwminiwm

Pod-Recycling-PRINT-W1_475x316

Pod-Recycling-PRINT-W2_400x600

Podiau coffi plastig

Pod-Recycling-PRINT-3360

Pod-Recycling-PRINT-G2_400x600

Beth sy’n digwydd i’r podiau ar ôl cael eu casglu?

Mae’r podiau coffi rydych chi’n eu hailgylchu yn cael eu cludo i ffatrïoedd ailbrosesu alwminiwm a phlastigau yn y DU.  Ar ôl tynnu’r gwaddodion coffi ohonyn nhw, caiff y plastig a’r alwminiwm eu trawsnewid yn gynhyrchion newydd, gan gynnwys caniau diod, cydrannau ceir neu ddodrefn gardd plastig a chynnyrch adeiladu. Caiff y gwaddodion coffi eu defnyddio i greu deunydd gwella pridd ac ynni adnewyddadwy (bio-nwy).

Rydw i’n byw mewn bloc gyda biniau cymunedol, alla’ i gymryd rhan yn y cynllun?

Gallwch  – cofrestrwch ac archebwch eich bagiau ailgylchu am ddim ar wefan Podback, ac yna trefnwch gasgliad drwy ffonio Crest ar 01492 596783.

Neu fe allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth Gollwng, sy’n gadael i chi fynd â’ch bagiau llawn i’ch man casglu Collect+ agosaf. Mae mannau Collect+ ar gael 7 diwrnod yr wythnos. I archebu eich bag ailgylchu am ddim, ewch i’r adran sut i ailgylchu ar wefan Podback.

Cwestiynau Cyffredin

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin yma i ddysgu mwy am y cynllun Podback.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?