Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Ailgylchwch eich dillad

Ailgylchwch eich dillad


Summary (optional)
Defnyddiwch y bag piws i ailgylchu dillad ac esgidiau.
start content

Os ydych yn byw mewn ardal wledig, gallwch ffonio Crest ar 01492 596783 i drefnu eich casgliad.


Caiff eich bag piws ar gyfer dillad ei gasglu o ymyl y palmant bob pythefnos. Caiff yr eitemau eu hailwerthu gan Gydweithfa Crest.

Ia plîs:

  • Dillad plant
  • Dillad Oedolion
  • Esgidiau mewn parau
  • Bagiau llaw
  • Beltiau

Dim diolch:

  • Eitemau budr neu wlyb
  • Dillad gyda rhwygau neu staenau arnynt
  • Dillad gwely (megis cynfasau, clustogau neu flancedi)
  • Tywelion
  • Llenni
  • Sanau, nicers neu deits
  • Helmedi neu seddi ceir
  • Bric-a-brac


Cofiwch y cewch fynd â’r eitemau i’r Canolfannau Ailgylchu ym Mochdre ac Abergele

Ffoniwch Crest am fagiau porffor newydd ar 01492 596783.


Cysylltwch â Crest i gael bagiau piws eraill ar 01492 596783 neu info@crestcooperative.co.uk.  Gallwch hefyd gael y bagiau hyn o’ch llyfrgell leol.

Dim Casgliad dros y Nadolig

Ni fydd casgliad dillad dros wythnos y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Os oes arnoch angen cael gwared â dillad dros y cyfnod hwn dylech fynd â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Bydd casgliadau’n ail-ddechrau yn ystod yr ail wythnos ym mis Ionawr. Gweler y calendr casgliadau neu gwiriwch eich dyddiad casglu am ragor o wybodaeth.

Gweler hefyd: Gwneud cais am gynhwyswyr ailgylchu newydd neu rai ychwanegol

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?