Pam Compostio?
Home-composterMae compostio cartref yn fuddiol i’ch gardd a’r amgylchedd, ac mae’n hawdd ac yn hwyl!
Compostio yw ffordd natur o ailgylchu. Mae compostio deunydd y gegin a’r ardd yn ddewis amgen gwych i wrtaith artiffisial drud a mawn.
Gall compost wedi’i wneud gartref arbed arian i chi, wella pridd eich gardd, ac arbed dŵr drwy helpu i'r pridd gynnal ei leithder.
Mae tannau gardd yn llygru ac yn creu niwsans – mae compostio yn osgoi'r angen i losgi.
Compostio yw’r ffordd hawsaf o ailgylchu eich gwastraff. Gallwch ei wneud gartref a chynnwys y teulu cyfan!
Sut mae'n gweithio?
- Casglwch holl wastraff addas y gegin a’r ardd yn rheolaidd (anelwch am hanner ‘gwyrdd’ a hanner ‘brown’)
- Torrwch ddeunyddiau’n fân, i ddarnau llai na 15cm (6 modfedd)
- Rhowch bopeth yn eich bin compost ar bridd moel
- Gosodwch hen ddarn o garped ar ei ben i’w gadw'n gynnes
- Trowch gynnwys y compostiwr yn rheolaidd
- Disgwyliwch i’r angenfilod bychain (o organebau bach iawn i bryfed genwair) ddadelfennu’r gwastraff a chynhyrchu cyflenwad o gompost am ddim!
Beth sy’n mynd i’r bin compost?
Gwyrdd (ffres)
- Croen llysiau
- Croen a chanol ffrwythau
- Bagiau te a gwaddodion coffi
- Plisgyn wyau wedi’u malu
- Gwastraff anifeiliaid sy’n bwyta llysiau (megis cwningod, bochdewion a cheffylau)
- Glaswellt
- Chwyn
- Torion
- Deunyddiau naturiol megis gwlân a gwallt
- Llwch y sugnwr llwch
Brown (hen a sych)
- Rholyn papur cegin a phapur wedi’i rwygo
- Gwellt, gwair a llwch llif
- Bocsys wyau a thiwbiau papur toiled
- Toriadau planhigion a brigau
- Dail
Beth na ddylai fynd i’r bin compost?
- Hancesi papur wedi’u defnyddio
- Cig, pysgod neu gynnyrch llaeth
- Gwastraff anifeiliaid sy’n bwyta cig (megis cŵn neu gathod)
- Sbarion bwyd wedi’i goginio
- Cylchgronau sglein
- Planhigion gyda haint
- Gwreiddiau chwyn parhaol (megis dant y llew)
- Cewynnau tafladwy