Gellir ailgylchu’r eitemau canlynol am ddim yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref Mochdre a Gofer (Abergele):
Eitem | Cyfarwyddiadau |
Dillad a thecstilau |
Dim eitemau sydd yn fudr iawn, dylai esgidiau fod mewn pâr ac mewn bag |
Papur a cherdyn |
Dim deunydd lapio seloffen (er enghraifft, ar lythyrau sgrwtsh) |
Plastig cymysg |
Dim eitemau budr iawn |
Gwastraff gardd |
Dail, toriadau/clipiadau, brigau a changhennau bach yn unig. Dim pridd, rwbel, potiau planhigion, bagiau compost neu debyg Dim gwastraff cartref cyffredinol megis caniau neu blastig
|
Poteli a jariau gwydr |
|
Batris |
|
Tuniau, caniau ac aerosolau |
Dylai tuniau, caniau ac aerosol fod yn hollol wag cyn eu taflu |
Dodrefn |
|
Eitemau trydanol |
Dim oergelloedd na rhewgelloedd masnachol. Dim oergelloedd amonia (mae rhai oergelloedd cludadwy a modelau hŷn yn defnyddio amonia) |
Metel sgrap |
|
Cardbord |
|
Plastig caled |
|
Gellir gwaredu’r eitemau canlynol yn rhad ac am ddim ond cyfyngir ar nifer:
Eitem | Cyfyngiadau |
Sbwriel Cyffredinol |
Dim mwy na 2 fag bob pythefnos. Mae staff y safle’n cadw’r hawl i ofyn i chi brosesu eich gwastraff cyffredinol yn yr Ardal Didoli Gwastraff Ailgylchu. |
Gwastraff anifeiliaid |
2 fag bin bob pythefnos
Gwastraff anifeiliaid anwes yn unig a dderbynnir. Ni chaniateir gwastraff amaethyddol na gwastraff fferm
|
Tiwbiau fflworolau |
5 y flwyddyn |
Carped |
Cyfateb i 6 ystafell y flwyddyn (gyda chyntedd, pen grisiau a grisiau’n cyfrif fel un ystafell) |
Cynwysyddion tanwydd |
Rhaid eu torri o leiaf yn ddau ddarn. |
Cemegau Tŷ neu Ardd |
Poteli bach yn unig, y dylid eu labelu’n glir a’u selio’n dda. Ni dderbynnir cemegion diwydiannol. |
Olew injan neu olew coginio wedi’i ddefnyddio |
10 litr y flwyddyn |
Paent |
15 uned y flwyddyn Mae ‘uned’ yn 2.5 litr (neu gyfatebol) |
Batris car |
2 y flwyddyn |
Matresi |
Cliciwch yma am wybodaeth ar waredu matresi. |
PWYSIG: Mae staff y safle’n cadw’r hawl i wrthod mynediad i:
. unrhyw un sy’n ceisio gwaredu mathau gormodol o wastraff derbyniol (rhad ac am ddim neu fel arall)
. unrhyw un a amheuir sy’n gwaredu gwastraff masnach,
. unrhyw un sy’n torri rheolau’r safle.
Gweler hefyd: