Efallai eich bod yn barod i adael yr ysbyty, ond y byddwch yn cael hi’n anodd ymdopi gartref heb gymorth. Bydd staff y ward yn siarad â chi am eich anghenion a’r hyn sy’n bwysig i chi. Efallai y byddant yn eich cyfeirio at ein tîm Gofal Cymdeithasol a fydd yn eich helpu chi pa gefnogaeth sydd ei angen gennym, ynghyd â chymorth gan eich gofalwr neu eich teulu.
Ein nod yw eich bod yn aros gartref cyn hired â phosib, felly pan rydych yn cael eich rhyddhau o'r ysbyty, efallai byddwn yn trefnu pecyn cymorth ail-alluogi dros dro. Byddwn yn eich helpu i drefnu rhyddhad o'r ysbyty sy'n ddiogel ac yn amserol, ac unwaith rydych gartref, eich helpu i wella a chael annibyniaeth.
Os oes arnoch angen cyfarpar neu addasiadau i’ch helpu i symud o gwmpas eich cartref yn ddiogel, gallwn helpu i drefnu bod y rhain yn cael eu danfon neu eu gosod yn eich cartref.
Os nad ydych yn gallu dychwelyd adref, byddwn yn trafod y dewisiadau sydd ar gael gyda chi. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried byw mewn lleoliad gwahanol, megis Tai Gofal Ychwanegol neu gartref preswyl. Bydd hyn yn dibynnu ar eich anghenion ar y pryd.
Rhagor o wybodaeth
Cymorth a chefnogaeth sydd ar gael i ddychwelyd adref o'r ysbyty
Talu am ofal
Dewis llety priodol ar ôl bod yn yr ysbyty
Ydych chi'n pryderu am rywun ar ôl arhosiad mewn ysbyty? Rhowch wybod am oedolyn mewn perygl yma