Beth yw Teleofal?
Mae Teleofal Conwy yn cefnogi ystod o unigolion drwy ddarparu technoleg o fewn y cartref. Gall hyn ddatgelu cwympiadau, gwella diogelwch yn eich cartref, neu ganu larwm yn y gwasanaeth monitro 24/7 dwyieithog.
Mae mwy a mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o dechnoleg i gynorthwyo pobl i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn y gymuned. Bydd Teleofal Conwy yn gweithio gyda chi i geisio canfod ffyrdd gwahanol i ddiwallu eich anghenion drwy ddefnyddio offer a thechnoleg newydd Teleofal.
Beth sy'n cael ei gynnwys?
Mae’r pecyn Teleofal sylfaenol yn cynnwys rhentu, cynnal a chadw a monitro’r offer canlynol canlynol:
- Blwch Llinell Fywyd
- Larwm Gwddf
- Synwyryddion mwg
- Sêff Allweddi
Cost
- Ffi unwaith yn unig o £35 am osod + £1.03 y diwrnod
Mae offer ychwanegol / arbenigol ar gael yn dilyn argymhelliad gweithiwr iechyd proffesiynol.
Sut ydw i’n atgyfeiro?
Cliciwch yma i lenwi’r ffurflen gofrestru ar gyfer Teleofal , neu lawrlwythwch gopi papur gofrertru Teleofal i’w lenwi a’i ddychwelyd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Gwasanaeth Teleofal Conwy
Storfa Benthyg Cyfarpar Cymunedol
Ysbyty Bryn y Neuadd
Aber Road
Llanfairfechan
LL33 0HH
E-bost: teleofal@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 577560
Ffacs: 01492 577594
Tudalennau defnyddiol eraill
Dewis Cymru
Galw Gofal
Paratoi Taliad Debyd Uniongyrchol
Un Pwynt Mynediad Conwy
Tîm Gofalwyr Conwy
Hawliau Lles