Beth yw awtistiaeth?
Mae awtistiaeth (sy’n cael ei gyfeirio ato weithiau fel ‘cyflwr sbectrwm awtistiaeth’ - CSA) yn gyflwr datblygiadol sy’n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn cyfathrebu, yn ymddwyn ac yn rhyngweithio â phobl eraill. Efallai y bydd gan rai pobl awtistig nodweddion amlwg iawn ac eraill ddim. Yr hyn sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw gwahaniaethau yn eu sgiliau cyfathrebu cymdeithasol a’u hymddygiad o gymharu â phobl sydd ddim yn awtistig.
Mae pobl awtistig yn prosesu gwybodaeth yn wahanol. Mae prosesu gwybodaeth synhwyraidd yn gallu bod yn anodd. Gall unrhyw un o’u synhwyrau fod yn or-sensitif neu ddim yn ddigon sensitif, neu’r ddau, ar wahanol adegau. Dysgwch fwy am awtistiaeth.
Sut mae cael diagnosis o awtistiaeth?
Mae cael diagnosis o awtistiaeth yn gofyn am asesiad manwl gan dîm o weithwyr proffesiynol. Yr enw ar hyn yw ‘asesiad diagnostig’. Mae canllawiau i bobl broffesiynol eu dilyn pan maen nhw’n cynnal asesiadau diagnostig
Mae’n bwysig nodi bod rhestrau aros hir am asesiadau. Yn aml mae cymorth ar gael i bobl sy’n dangos arwyddion o awtistiaeth tra maen nhw’n aros am asesiad. Cewch fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar y dudalen hon.
Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael
content
Mae North Wales Integrated Autism Service yn cynnig asesiadau diagnostig ar gyfer pobl 18 a throsodd nad ydynt eisoes yn cael eu cefnogi gan dimau anabledd dysgu neu iechyd meddwl. Gall pobl atgyfeirio eu hunain ar gyfer asesiad diagnostig gan ddefnyddio ffurflen atgyfeirio ar eu tudalen we.
Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cefnogi pobl i ddeall eu diagnosis o awtistiaeth ac yn darparu adnoddau, cyngor a chymorth i bobl awtistig a’u teuluoedd. Mae’r tîm yn rhedeg cyrsiau Deall Awtistiaeth rheolaidd ar gyfer pobl sydd newydd gael diagnosis o awtistiaeth.
Er mai gwasanaeth diagnostig ar gyfer oedolion yw hwn, mae’r tîm hefyd yn cynnig adnoddau a chymorth i rieni a gofalwyr plant ac oedolion awtistig.
Ystyriwch a fyddai, neu sut fyddai diagnosis o awtistiaeth o bosibl yn effeithio arnoch chi. I rai pobl awtistig mae eu diagnosis yn eu helpu nhw i ddeall eu hunain yn wel.l Weithiau gall pobl deimlo bod y diagnosis yn effeithio ar eu hymdeimlad o bwy ydyn nhw.
content
Gwasanaeth Niwroddatblygiadol GIG Gogledd Cymru sydd fel arfer gyfrifol am asesiadau diagnostig plant. Gall ysgol neu feddyg teulu gyfeirio plentyn o oedran ysgol sy’n dangos arwyddion o awtistiaeth at y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS). Bydd CAMHS yn sgrinio’r atgyfeiriad a lle bo hynny’n briodol yn ei anfon ymlaen at y tîm niwroddatblygiadol am benderfyniad. Gall plant o dan 5 oed gael eu hatgyfeirio at Bediatregydd Cymunedol lleol gan eu hysgol neu weithiwr iechyd proffesiynol. Siaradwch gyda nhw am eich pryderon a sut y gall eich plentyn gael ei atgyfeirio.
Fel arfer mae rhestr aros hir am asesiadau. Yn aml iawn gall plant a’u teuluoedd gan cyngor a chefnogaeth gan sefydliadau neu grwpiau lleol eraill yn y cyfamser.
Ystyriwch a fyddai, neu sut fyddai diagnosis o awtistiaeth yn effeithio ar blentyn yr ydych yn gyfrifol amdanynt. Gall diagnosis o awtistiaeth helpu rhai plant a’u teuluoedd i ddeall eu hunain/y plentyn yn well. Weithiau gall diagnosis effeithio ar ymdeimlad plentyn o bwy ydyn nhw.
content
Mae’r Tîm Niwrowahaniaeth (Awtistiaeth) Cenedlaethol yn rhoi gwybodaeth, cymorth ac arweiniad i bobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Maen nhw hefyd yn cynhyrchu adnoddau penodol ar gyfer awtistiaeth a thaflenni cyngor ar gyfer pobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr
content
Mae’r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol wedi datblygu dau fodiwl hyfforddiant e-ddysgu. Gall unrhyw un ddilyn yr hyfforddiant hwn
- Mae’r modiwl ‘deall awtistiaeth’ yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol o awtistiaeth a’r ffyrdd y gall effeithio ar fywydau bob dydd pobl awtistig. Mae’n cynnwys cyngor ar bethau y gall pobl eu gwneud er mwyn bod â gwell dealltwriaeth o awtistiaeth
- Nod y modiwl ‘deall cyfathrebu effeithiol ac awtistiaeth’ yw gwella dealltwriaeth o wahaniaethau cyfathrebu a’r ffyrdd gorau o gyfathrebu, ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r effaith y gall ffactorau amgylcheddol eu cael ar gyfathrebu pobl awtistig.
Mae’n well gan rai pobl hyfforddiant wyneb yn wyneb. Mae sefydliadau lleol weithiau’n trefnu hyfforddiant wyneb yn wyneb penodol ar awtistiaeth. Bydd hyn fel arfer yn cael ei hysbysebu yn eu cyfryngau cymdeithasol.
content
Weithiau bydd ar bobl awtistig eisiau cymorth sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer eu hanghenion nhw. Mae yna sefydliadau a gweithgareddau lleol sy’n rhoi cymorth i bobl awtistig. Yn aml gall pobl gael cymorth tra maen nhw’n aros am asesiad diagnostig. Isod mae rhestr o rai sefydliadau lleol sy’n cefnogi pobl awtistig a’u teuluoedd
- Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol (NAS) - mae cangen Conwy a Sir Ddinbych o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i bobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Maen nhw’n rhedeg grwpiau a digwyddiadau lleol. Mae ganddynt gyfeirlyfr o gymorth lleol, sy’n rhestru’r gwahanol weithgareddau a sefydliadau. Anfonwch neges at denbighshireconwy.branch@nas.org.uk i ofyn am gopi
- Mae Autistic UK yn sefydliad a arweinir gan awtistiaeth sydd wedi’i leoli yn Llandudno. Maen nhw’n cynnig cymorth cyfoedion, hyfforddiant ac amrywiaeth o wasanaethau eraill.
- Sefydliad a arweinir gan rieni yw STAND sy’n cefnogi teuluoedd ac oedolion ag anghenion ychwanegol ac anableddau. Mae STAND yn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant, grwpiau cefnogi rhieni a gweithgareddau yn y gymuned ar gyfer pobl o bob oed. Mae rhai o aelodau tîm STAND yn hyfforddwyr ar gyfer y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol.
- Mae Conwy Connect CC4LD yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan ei aelodau ac sy’n gwasanaethu pobl o bob rhan o Ogledd Cymru. Yn ogystal â threfnu gweithgareddau ar gyfer pobl o bob oed mae ganddynt brosiectau Pontio, Iechyd, Ymgysylltu a Hunan-eiriolaeth.
- Mae Cymorth Gwirfoddol a Chymunedol Conwy yn cefnogi ac yn hyrwyddo grwpiau a gweithgareddau gwirfoddol a chymunedol.
- Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth. Maent hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio ar draws y sir. Ewch i'w tudalen Facebook i wybod beth sy’n digwydd yn eich ardal.
- Mae Canolfannau Teuluoedd Conwy yn darparu cefnogaeth i deuluoedd trwy grwpiau a gweithgareddau ar draws Conwy. Ewch i'w tudalen i wybod beth sy'n digwydd yn eich ardal.
Yn ychwanegol mae Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych yn hyrwyddo amrywiaeth o brosiectau penodol ar gyfer pobl awtistig a’u teuluoedd a phobl broffesiynol yn y maes. Mae gwybodaeth am y prosiectau diweddaraf ar gael gan jeni.andrews1@conwy.gov.uk.
content
Weithiau mae ar ofalwyr angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol. Os ydych chi’n gofalu am rywun, mae’n bosibl y gallech gael asesiad o anghenion gofalwr i weld pa gefnogaeth neu wasanaethau y gallech fod eu hangen i’ch helpu chi gyda’ch rôl ofalu. Gall unrhyw ofalwr sy’n rhoi gofal di-dâl i rywun gydag anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol ofyn am asesiad o anghenion gofalwr.
Hyd yn oed os nad ydych eisiau asesiad efallai y byddwch eisiau gwybodaeth, cyngor neu gymorth ychwanegol i’ch helpu chi yn eich rôl ofalu. Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.
Darllennwch y llyfryn hwn i wybod mwy am hawliau gofalwyr.
content
Weithiau bydd ar bobl angen gofal a chefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'n amhosibl i bawb wybod am yr holl wasanaethau sydd ar gael i gefnogi iechyd a lles pobl. Gall y Tîm Un Pwynt Mynediad roi cymorth, gwybodaeth a chyngor am y gwasanaethau sydd ar gael. Gall SPoA eich helpu chi i ddeall sut y mae’r system gofal a chefnogaeth yn gweithio a sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn.
content
Weithiau bydd ar bobl angen gofal a chefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Gall Conwy roi cefnogaeth i deuluoedd ac rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion plant mewn dull cydlynol. Mae sawl gwahanol dîm ac mae pa un all helpu yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. Dysgwch fwy ar ein tudalennau Plant a Theuluoedd.
content
Mae gan bobl yr hawl i gael asesiad o’u hanghenion, ble ymddengys eu bod angen gofal a chymorth.
Sgwrs rhyngoch chi a/neu eich teulu a'ch Swyddog Gofal Cymdeithasol fydd yr asesiad o anghenion, i’ch helpu i fodloni eich anghenion gofal a chymorth. Yng Nghonwy, y timau Anabledd sy’n cefnogi pobl o dan 25 oed a phobl 25 oed a hŷn sydd fel arfer sy’n gyfrifol am gynnal asesiadau o anghenion gyda phobl awtistig a’u teuluoedd.
Gallwch gysylltu â’r tîm Un Pwynt Mynediad os nad oes gennych chi neu’r unigolyn rydych yn gofalu amdanynt Weithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Gofal Cymdeithasol.
content
content
Mae help ar gael i deuluoedd gyda deall ac ymateb i ymddygiad unigolyn awtistig yn y cartref. Mae’r Tîm Teuluoedd Integredig Lleol (LIFT) yn dîm amlasiantaeth. Gall gweithwyr proffesiynol wneud atgyfeiriad i’r tim LIFT ar-lein neu drwy gwblhau atgyfeiriad gan ddefnyddio ffurflen atgyfeirio LIFT.
content
content
content
Gall dod o hyd i, a chadw swydd fod yn fwy anodd i bobl awtistig. Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn helpu pobl i ddod o hyd i swyddi, profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli.
content
content
content
Mae Llywodraeth Cymru’n darparu arweiniad ac y pennu dyletswyddau ar gyfer Cynghorau. Mae’r rhain yn dylanwadu ar wasanaethau cymorth lleol.