Mae ein Gweithwyr Teuluoedd Anabledd wedi’u lleoli yn y 5 Tîm Teuluoedd Lleol. Rydym yma i ddarparu cymorth i deuluoedd plant gydag anableddau ac anghenion ychwanegol:
- Grwpiau i ddod a theuluoedd ynghyd, megis sesiynau Synhwyraidd.
- Grwpiau a chyrsiau i helpu rhieni gyda bywyd teuluol
- Gweithio gyda chi ar yr hyn sy’n bwysig i chi a’ch teulu
- Darparu cyngor ac adnoddau ymarferol, er enghraifft bocsys tawel, byrddau stori, adnoddau gweledol.
- Agor drysau i gymorth lleol eraill
- Cynnal gweithgareddau a sesiynau galw heibio yn y Canolfannau i Deuluoedd gan sefydliadau eraill sy’n cefnogi teuluoedd plant gydag anableddau ac anghenion ychwanegol
- Rydym yn gweithio’n agos gyda’r tîm Plant gydag Anableddau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, Canolfan Datblygiad Plant, ysgolion ac elusennau sy’n gweithio gyda theuluoedd plant gydag anableddau ac anghenion ychwanegol
Gymorth lleol eraill ar gael:
Mae’r rôl hon wedi cael ei gwerthuso yn ddiweddar gan Dr Cheryl Davies o Brifysgol Bangor. Mae canfyddiadau’r ymchwil wedi’u crynhoi yma