Pe gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd yng Nghonwy?
Cliciwch yma ar gyfer y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, i gael gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd yng Nghonwy, gan gynnwys prosiectau a ariennir gan Deuluoedd yn Gyntaf.
Gweler isod restr o'r holl brosiectau a ariennir gan Deuluoedd yn Gyntaf.
A allaf wneud cais am gyllid ar gyfer prosiect?
Pan fydd cyfleoedd ariannu ar gael maent yn cael eu hysbysebu trwy CGGC a'r Rhwydwaith Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Cliciwch yma am fanylion.
Sut mae prosiectau’n cael eu monitro?
Mae copïau o'r cerdyn adrodd a ddefnyddir i fonitro a gwerthuso prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf, ac arweiniad ar gyfer llenwi'r cerdyn adrodd, ar gael ar gais.
Beth ydym ni’n ei wneud yng Nghonwy i sicrhau gwell iechyd a lles, addysg a chyflogaeth ar gyfer teuluoedd sy’n byw mewn tlodi?
Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw ceisio gwella iechyd, lles, addysg, addysg a gwytnwch teuluoedd sy’n byw mewn tlodi. Rydym yn anelu at gyflawni hyn mewn sawl ffordd:
- Canolfannau Teuluoedd Conwy: Yn seiliedig ar lwyddiant Canolfan Teuluoedd Llanrwst, rydym yn sefydlu Canolfan Teuluoedd ar draws Conwy lle gall teuluoedd gael cefnogaeth a mynediad i weithgareddau a chymorth sefydliadau 3ydd sector/ gwirfoddol.
- Comisiynu: Rydym yn adnabod anghenion lleol ac yn gweithio gyda Phartneriaeth Pobl Conwy, a phartneriaethau eraill ar draws Gogledd Cymru, i benderfynu beth y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r anghenion hynny.
- Prosiectau: Rydym yn ariannu prosiectau i gefnogi teuluoedd diamddiffyn ar draws Conwy. Bydd y prosiectau hyn hefyd yn gweithio yn y Canolfannau Teuluoedd.
- Setiau Dysgu: Rydym yn rhannu’r hyn yr ydym wedi’i wneud a’r hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus gyda phartneriaethau ar draws Gogledd Cymru.
Sut gafodd y prosiectau eu dewis?
Rydym wedi gwneud gwaith ymchwil er mwyn darganfod y materion allweddol yr oedd angen mynd i’r afael â nhw i sicrhau gwell iechyd a lles, addysg a gwytnwch ar gyfer teuluoedd mewn tlodi yng Nghonwy.
Y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r ymchwil oedd:
- Iechyd meddwl ac emosiynol
- Teuluoedd yn chwalu a cham-drin domestig
- Arian a chyllid
- Cyflogaeth
- Gwybodaeth
- Plant ag anableddau
Yna fe wnaethom asesu ceisiadau am grantiau a dewis y prosiectau i'w hariannu yr ydym yn credu y byddant yn cael yr effaith fwyaf o ran mynd i'r afael â'r materion hyn. Gweler isod i gael fersiynau llawn a chryno o’n hadroddiad ymchwil.
Angen unrhyw beth arall?
Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm i gael unrhyw wybodaeth bellach:
E-bost: teuluoeddyngyntaf@conwy.gov.uk