Tîm Ymgynghori Personol
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc dros 18 oed wrth iddynt wneud y trosglwyddiad o ofal yr awdurdod lleol i annibyniaeth.
Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth hyd at 21 oed, neu hyd at 25 oed os yw’r unigolyn ifanc a’r cyngor yn cytuno. Caiff hyn ei gofnodi yn y Cynllun Llwybr.
Mae’r timoedd Ymgynghori Personol yn darparu cyfrifoldebau a dyletswyddau statudol i bobl sy’n gadael gofal, sy’n cynnwys cynnig cyngor a chefnogaeth gydag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, llety a lles cyffredinol.
Cysylltu â’n Tîm ar Ddyletswydd
Rhif ffôn: 01492 576270
E-bost: ymgynghorwyrpersonol@conwy.gov.uk
Mynediad at Gymorth
Os ydych o dan 18 oed, gallwch gael atgyfeiriad at Dîm Ymgynghori Personol gan eich Gweithiwr Cymdeithasol yn y Tîm Llwybrau.
Os nad ydych wedi cysylltu â’r gwasanaeth ar ôl 21 oed ac os hoffech ailgysylltu â ni, cysylltwch â’n Tîm Un Pwynt Mynediad ar 0300 456 1111 a gofynnwch am atgyfeiriad at y Tîm Ymgynghori Personol.