Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllunio Prosiect


Summary (optional)

 

start content

Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ailwampio Canolfan Ieuenctid Ffordd Douglas (yr hen ysgol) ac yn ddiweddarach dymchwel Canolfan Addysg Ffordd Douglas drws nesaf. 

Roedd y Ganolfan Ieuenctid i gael ei hailwampio i ddarparu cyfleusterau amlasiantaeth mewnol newydd a man gwaith, a byddai safle’r ganolfan addysg yn cael ei ailddatblygu yn nes ymlaen i greu cyfleuster ychwanegol. 

Cafodd y Ganolfan Ieuenctid ei hadeiladu tua 123 o flynyddoedd yn ôl, oedd yn golygu mai llawer o’r gwaith oedd moderneiddio’r safle.   

Yn gyntaf, roeddem yn canolbwyntio ar sicrhau bod yr adeilad yn cael ei sefydlu i’r safonau presennol.  Roedd hyn yn cynnwys inswleiddio’r to, gwneud gwaith atgyweirio, stripio waliau yn ôl i’r bric a’r leinin i ateb gofynion thermal, codi’r llawr i lefel a gosod cwrs atal lleithder a ffenestri newydd.

Roeddem wedi trefnu i newid y cyfluniad i gynnwys creche, ystafell weithgaredd, ardal chwarae awyr agored, cegin gwaith grŵp ac ystafelloedd cyfarfod newydd.

Roeddem wedi nodi addasiadau i wneud yr adeilad yn fwy cyfforddus a hygyrch fel nenfydau crog, offer codi pobl anabl yn yr ystafell weithgareddau a thoiledau i bobl anabl yn ogystal â thoiledau babanod.

Yn olaf, roeddem wedi disodli’r system wresogi gyda system wresogi ffynhonnell aer a phaneli solar, ailweirio’r adeilad a gosod mynediad drws. Roeddem hefyd wedi sicrhau fod gennym Wi-fi ar gyfer y cyhoedd ac i staff o asiantaethau eraill.  

Yn ogystal â’r gwaith ailwampio, roeddem wedi sefydlu grŵp ymgynghori yn cynnwys rhieni a staff a fyddai’n defnyddio’r ganolfan, a’i ddiben oedd ystyried pa gyfleusterau oedd angen bod ar gael yn y safle. Roedd grŵp o bobl ifanc Iechyd a Chymdeithasol o Ysgol Uwchradd Eirias yn cyfrannu at ddatblygu’r cynlluniau, gan gynnwys ymweliad safle gyda’r rheolwr prosiect a llunio llythyrau cefnogol ar gyfer cyllid.

Nid oeddem eisiau colli atgofion oedd gan yr adeilad i lawer yn y gymuned leol. Roeddem wedi cymryd camau i gadw’r nodweddion gwreiddiol. Roedd y gloch ysgol wreiddiol wedi’i hadnewyddu i’w gwneud yn ddiogel ond sicrhau y gallai aros ar y safle.  

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content