Beth mae eiriolwr yn ei wneud?
Byddant yn:
- Sicrhau eich bod â llais ac yn cael atebion
- Eich grymuso
- Eich helpu i wneud pethau ddigwydd a newid
- Eich cefnogi i wneud dewisiadau a chymryd mwy o reolaeth
- Gweithio dros eich hawliau cyfartal a chynhwysiant
Ni fyddant yn
- Rhoi cyngor i chi
- Cymryd rheolaeth oddi arnoch
- Gweithredu fel dyfarnwr mewn dadleuon neu anghydfodau
- Chwarae rôl gweithiwr cymdeithasol
Sut i gael eiriolwr
Cysylltwch ag un o’r Gwasanaethau eirioli annibynnol isod:
TGP Cymru– Gwasanaeth Eiriolaeth Gogledd Cymru
Mae TGP Cymru wedi datblygu ffilm ynghylch eiriolaeth a’r ‘cynnig gweithredol’ o’r enw ‘Is Anyone Listening?’ Gallwch ei wylio yma ar You Tube:
Mae TGP Cymru yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n ‘derbyn gofal’, ‘plant sydd angen gofal a chefnogaeth, a’r rhai ‘sy’n gadael gofal’.
Canolfan Dewis ar gyfer Byw yn Annibynnol
Dyma sefydliad gwirfoddol i bobl anabl a’r rhai sydd ddim yn anabl. Maent yn darparu gwasanaethau sy’n cefnogi ac yn ymateb i ddymuniad pobl anabl i gael dewis yn eu bywydau.
Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych
Mae hwn yn wasanaeth eiriolaeth annibynnol, cyfrinachol ac am ddim i bobl ifanc ac oedolion sydd â chyflyrau iechyd meddwl.
Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru (ASC)
Mae ASC yn arbenigo mewn darparu eiriolaeth broffesiynol, gyfrinachol ac annibynnol ar gyfer y sawl sy'n gymwys mewn lleoliadau gofal eilaidd ac iechyd meddwl cymunedol.
Mae gan wefan MEIC Cymru gyfleuster chwilio ar gyfer dod o hyd i brosiectau eiriolaeth yn eich ardal chi, ynghyd â manylion am bob gwasanaeth a map rhyngweithiol.