Mae Gweithdai’r Rhaglen Gyfnerthu a gafodd eu gohirio yn ystod y cyfnod clo yn awr yn cael eu cynnal yn rhithwir. Nid ydym bellach yn eu cynnal ar y cyd ag Ynys Môn, gan gydnabod fod grwpiau bach yn hwyluso'r dysgu ac yn ei gwneud yn haws i gyfrannu a rhyngweithio.
Dyddiadau ar gyfer Dyddiaduron:
- Cynhaliwyd Gweithdy 3 ar gyfer Cohort 14 ar 24 Awst 2020
- Bydd Gweithdy 4 ar gyfer Cohort 14 yn cael ei gynnal ar 6 Hydref 2020.
- Y Pwynt Cyflwyno ar gyfer Cohort 14 fydd 12 Ionawr 2021.
- Bydd Gweithdy 1 ar gyfer Cohort 15 yn cael ei gynnal ar 15 Medi 2020.
- Bydd Gweithdy 2 ar gyfer Cohort 15 yn cael ei gynnal ar 3 Tachwedd 2020.
- Bydd Gweithdy 3 ar gyfer Cohort 15 yn cael ei gynnal ar 14 Ionawr 2021.
- Bydd Gweithdy 4 ar gyfer Cohort 15 yn cael ei gynnal ar 3 Mawrth 2021.
- Y Pwynt Cyflwyno ar gyfer Cohort 15 fydd 12 Mai 2021.
Y dyddiad cychwyn ar gyfer Cohort 16 ac 17 fydd Chwefror 2021. Unwaith y bydd y staff academaidd ar gael o fis Medi 2020, byddwn yn gallu rhoi gwybodaeth am y camau cofrestru i chi.
Anfonwch e-bost at Nia O’Marah i roi gwybod iddi am unrhyw weithwyr cymdeithasol yn eich timau sydd wedi cwblhau eu blwyddyn gyntaf o ymarfer ac a fyddant felly'n gymwys ac y bydd hefyd yn ofynnol iddynt fynd ar y Rhaglen. Mae cwblhau’r Rhaglen hon yn rhan orfodol o ailgofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar ddiwedd y tair blynedd gyntaf o ymarfer.
Rhowch wybod i Nia O’Marah hefyd os oes gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yn eich timau a fydd angen cefnogaeth a addysgu i gwblhau eu blwyddyn gyntaf o ymarfer yn llwyddiannus, ac sydd angen sefydlu cynllun dysgu unigol, gyda dyddiadau wedi’u gosod ar gyfer monitro a gwerthuso datblygiad a chynnydd.
Nia O'Marah - nia.omarah@conwy.gov.uk