O fis Awst 2020, pan fydd lleoliadau'r flwyddyn gyntaf a'r ail yn ail-ddechrau ar ôl eu gohirio yn sgil cyfnod clo Covid-19, bydd sesiynau cefnogi rheolaidd yn cael eu cynnal ar-lein.
Mae un sesiwn eisoes wedi’i chynnal gydag Addysgwyr Ymarfer o’r pedwar lleoliad a ail-ddechreuodd yn gynnar ym mis Awst 2020.
Bydd sesiynau mwy ffurfiol yn cael eu trefnu o fis Medi ymlaen gan Mark Rowley a Nia O'Marah ar sail wythnosol i gynnig cymorth ac arweiniad, monitro a gwerthuso arferion gwaith a rhannu syniadau a phryderon yn ogystal â diweddaru a darparu gwybodaeth. Bydd modd hefyd adnabod a rhoi sylw i unrhyw anghenion dysgu.