Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Datblygu ac Addysgu Gweithlu Recriwtio a gyrfa o fewn Gofal Cymdeithasol

Recriwtio a gyrfa o fewn Gofal Cymdeithasol


Summary (optional)
start content

Mae Gofalwn Cymru.Conwy â’r nod o godi ymwybyddiaeth am Ofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar ar lefel leol, i ddenu rhagor o bobl sydd â’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn swyddi gofalu gyda phlant ac oedolion. Gallwn eich cefnogi chi i ddod o hyd i yrfa o fewn Gofal Cymdeithasol.

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Gofalwn.Cymru, yn gosod safonau ar gyfer y gweithlu gofal a chefnogaeth, datblygu’r gweithlu i’w galluogi nhw i gael y wybodaeth a’r sgiliau i amddiffyn, grymuso a chefnogi’r sawl sydd angen cymorth fwyaf.

Os ydych chi’n berson pobl a bod gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pob dydd pobl, gallai gyrfa o fewn gofal fod yn berffaith i chi. Os oes gennych chi agwedd gadarnhaol ac wedi ymrwymo i ofalu am eraill ac eisiau herio eich hun gyda swydd sy’n wahanol bob dydd, yna dyma’r amser iawn i chi ddechrau ar eich gyrfa newydd.

A ydych chi’n meddu ar rai o’r nodweddion canlynol?

  • angerdd
  • ymroddiad
  • cyfeillgarwch
  • sgiliau cyfathrebu da
  • empathi
  • amynedd

Os ydych yn ateb YDW ac yr hoffech ddysgu mwy am sut y gallwn ni helpu i’ch cefnogi chi, cysylltwch â ni yn gofalwncymru@conwy.gov.uk neu ewch i wefan Gofalwn.Cymru i ddod o hyd i ddarparwyr lleol sy’n chwilio am bobl fel chi.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?