Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwasanaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol: Pwy ydym ni


Summary (optional)
Mae Gwasanaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol Conwy yn anelu i gynnal ansawdd darpariaeth Gofal Cymdeithasol o fewn sir Conwy drwy ddulliau a drefnwyd tuag at ddysgu a datblygu.
start content

Rydym yn gweinyddu Grant Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (GPDGGCC) er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad i weithlu Gofal Cymdeithasol Conwy gan gynnwys ein darparwyr a’n partneriaid yn Sir Conwy.

Mae cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad yn agored i’r sector Gofal Cymdeithasol cyfan, er enghraifft gwirfoddolwyr, derbynwyr tâl uniongyrchol, unigolion gyda chyfrifoldebau gofalu (oedolion sy’n ofalwyr a gofalwyr ifanc) a gweithwyr gofal cymdeithasol.

Mae cynlluniau gweithlu rhanbarthol a lleol ar waith sy’n nodi ac yn sicrhau gweithrediad mesurau i sicrhau gweithlu digon mawr, medrus, diogel ac sydd â ffocws i hybu lles pobl ag anghenion gofal a chefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • cefnogi recriwtio a chadw
  • gallu a chymwysterau
  • llwybrau gyrfa
  • datblygu sgiliau unigolion i gydymffurfio â chodau ymarfer proffesiynol o fewn y sector
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?