Cartrefi i Wcráin (nawdd)
Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu dau gynllun i helpu pobl i ddod i’r DU os ydynt yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin – y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, i bobl sydd â chysylltiadau teuluol, a’r cynllun Cartrefi i Wcráin, ar gyfer y rheini sydd heb gysylltiadau teuluol yn y DU.
Sut i gofrestru
Y ddolen i gofrestru cynnig cymorth yw: Cofrestrwch fusnes neu sefydliad i helpu ffoaduriaid o Wcráin sy’n dod i Gymru
Os oes gennych enw unigolyn penodol rydych yn dymuno ei noddi, ewch i: homesforukraine.campaign.gov.uk
Os nad ydych yn adnabod neb i’w noddi, gallwch gofrestru eich diddordeb mewn cynnig llety, mae mwy o wybodaeth yma: https://www.gov.uk/guidance/homes-for-ukraine-scheme-frequently-asked-questions
Dolenni defnyddiol
Rhoi
Gall pobl helpu drwy nifer o ffyrdd. Mae llawer o’r llwybrau teithio ar gau a’r systemau cludiant dan bwysau mawr, felly gallai anfon nwyddau ychwanegu at yr anawsterau ar lawr gwlad. Ond gyda rhoddion ariannol, bydd y sefydliadau sy’n ymateb i’r argyfwng yn gallu cael gafael ar y nwyddau brys yn lleol. Dylai unrhyw un sy’n gallu helpu ystyried gwneud rhodd ariannol i’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.
Os gallwch chi gynnig cymorth fel busnes neu sefydliad, mae angen ichi ddweud wrthym am yr help y gallwch ei roi at ukrainesupport@conwy.gov.uk
Ffyrdd eraill o helpu
Mae’r dolenni isod yn rhoi rhagor o wybodaeth am ffyrdd i helpu:
Gallwch hefyd anfon e-bost at ukrainesupport@conwy.gov.uk