Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Wcráin Gwybodaeth i Noddwyr

Gwybodaeth i Noddwyr


Summary (optional)
start content

Mae llinell gymorth bwrpasol wedi'i sefydlu i roi cyngor ac arweiniad i bobl sy'n cyrraedd Cymru o'r Wcráin ac i bobl sy'n gweithredu fel noddwyr.

Gallwch ffonio'r llinell gymorth am ddim rhwng 09:00 a 17:00 o'r gloch, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

  • I alwyr yn y DU, y rhif yw: Rhadffôn 0808 175 1508
  • I alwyr y tu allan i’r DU, y rhif yw: +44 20 4542 5671

Gellir dod o hyd i gyngor ac arweiniad yma hefyd: Cartrefi i Wcráin: canllawiau i noddwyr

Cadw mewn Cysylltiad

Cadwch mewn cysylltiad a gadael i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wybod y dyddiad y disgwylir i’ch gwestai(gwesteion) gyrraedd a phan fydd eich gwestai(gwesteion) wedi cyrraedd. 

Rydym yma i’ch cefnogi, rydym yn diweddaru ein gwefan yn rheolaidd, ac yn cyhoeddi gwybodaeth a all fod yn ddefnyddiol i chi fel y noddwr a’ch gwesteion.

Ebostiwch: ukrainesupport@conwy.gov.uk

Taliad Diolch 

Gall noddwyr gael ‘Taliad Diolch’ dewisol o £500 y mis. Gwneir y taliad yn fisol fel ôl-daliad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Gellir ond gwneud y taliad ar ôl cynnal gwiriadau llety a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo fel noddwr ac mae eich gwesteion wedi cyrraedd, bydd mwy o wybodaeth a ffurflen gais ar gyfer y taliad yn y llythyr a gawsoch gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?