Derbyniadau i Ysgolion
Fel gyda phob dysgwr newydd sy’n ymuno ag ysgolion Conwy, ein nod yw gwneud y broses a threfniadau derbyn mor syml a chlir a phosib.
Y cam cyntaf fydd llenwi’r ffurflen dderbyniadau ar-lein yn: Trosglwyddo o ysgol i ysgol yn ystod y flwyddyn.
Mae copïau papur ar gael gan y Gwasanaethau Addysg ar (01492) 575031.
Mae’r ddogfen Gwybodaeth Ysgolion ar gael yn: Dogfen Wybodaeth Ysgolion 2022-2023.
Mae hyn yn cynnwys:
- Polisi Derbyniadau
- Rhestr o holl ysgolion Conwy
- Manylion cyswllt
- Chategori iaith
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Dderbyniadau i Ysgolion e-bostiwch: admissions@conwy.gov.uk.
Prydau Ysgol am Ddim / Grantiau Gwisg Ysgol
Pan fydd eich gwesteion yn hawlio Budd-daliadau’r DU, gallant wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim a grant gwisg ysgol.
Mae mwy o wybodaeth yn: Budd-daliadau Addysg.
Cludiant i'r Ysgol
Gall eich gwesteion wneud cais i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol yn: Cludiant Ysgol / Coleg am Ddim
Neu trwy gysylltu â’r Tîm Ceisiadau Cludiant ar (01492) 575595.
Pan fydd y Swyddog Cludiant wedi cael y ffurflen gais byddant yn cysylltu â chi i gadarnhau cymhwysedd a darparu manylion y trefniadau cludiant.