Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ailwampio Llwybr Alys

Ailwampio Llwybr Alys


Summary (optional)
start content

Ailwampio Llwybr Alys

Alice Trail sculpture

Cerfluniau newydd Llwybr Alys

Dros y chwe wythnos nesaf, bydd y gwaith adnewyddu terfynol ar atyniad poblogaidd Llandudno, Llwybr Alys, yn cael ei gwblhau gyda cherfluniau newydd yn cael eu gosod yn y Fach.

Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i wneud y gwaith.

Dywedodd y Cyng. Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy Conwy: “Mi ydw i’n hynod falch ein bod ni wedi gallu cael cyllid i adnewyddu’r llwybr poblogaidd yma yn Llandudno a chynnal ein cysylltiadau gyda Lewis Carroll a’r Alys yng Ngwlad Hud go iawn, Alice Liddell.

“Mae’n llwybr mae trigolion ac ymwelwyr wrth eu boddau ag o, felly rydw i’n edrych ymlaen at eu cael nhw’n ôl lle maen nhw i fod – i bawb eu mwynhau.”

Cafodd y cerfluniau gwreiddiol yn y Fach eu creu gan y cerflunydd Reece Ingram a chawsant eu comisiynu yn 2000 yn rhan o Brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Cafodd y cerfluniau eu hadnewyddu yn 2013 a chafodd cerfluniau newydd eu hychwanegu yng nghanol y dref i greu’r llwybr enwog, ‘Llwybr y Gwningen Wen’. Mae wedi bod yn llwybr poblogaidd iawn yn y dref ers hynny. 

Ers cael eu hadnewyddu ddiwethaf, roedd y cerfluniau ar hyd y llwybr wedi dechrau dirywio, ac yn anffodus, roedd y cerfluniau oedd yn y Fach wedi’u difrodi’n arw gan stormydd. O ganlyniad, mae’r cerfluniau yn y Fach yn cael eu cyfnewid am rai newydd wedi’u cerfio gan y saer coed adnabyddus, Simon Hedger.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio gyda RELM Construction i osod y cerfluniau newydd. Cytunwyd ar leoliadau ar gyfer y cerfluniau newydd, ac mae gwaith yn dechrau’r wythnos hon, gyda’r nod o’i gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2025.

 Ar ôl ei gwblhau, bydd Llwybr Alys yn cael ei ail-lansio a bydd taflen newydd Llwybr Alys ar gael i’w phrynu o Ganolfan Groeso Llandudno.

Wedi ei bostio ar 13/02/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content