Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Byddwch yn Wyliadwrus - Neges Destun Dwyllodrus am Barcio

Byddwch yn Wyliadwrus - Neges Destun Dwyllodrus am Barcio


Summary (optional)
start content

Byddwch yn Wyliadwrus - Neges Destun Dwyllodrus am Barcio

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhybuddio trigolion ac ymwelwyr i fod yn wyliadwrus o neges destun dwyllodrus.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael adroddiadau gan bobl sydd wedi cael negeseuon testun yn dweud eu bod wedi cael Rhybudd Talu Cosb (dirwy barcio) gyda dolen gyswllt i dalu trwy wefan ffug .gov. 

Rhywbeth sy’n peri pryder yw bod y wefan sy’n ymddangos fel un ddidwyll yn cyfeirio at Gonwy.

Mae adroddiad gan ‘Which’ yr wythnos ddiwethaf yn awgrymu bod hwn yn rhan o gynllun twyll - mae’r twyllwyr yn defnyddio cyfeiriad IP y ffôn i ganfod eich lleoliad er mwyn gwneud y cynllun twyll yn fwy argyhoeddiadol.

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn anfon dirwyon parcio trwy neges destun.

Gallwch roi gwybod am wefannau twyllodrus i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a gallwch anfon unrhyw negeseuon testun ffug ymlaen i 7726.

Gallwch hefyd roi gwybod am y cynllun twyll i Action Fraud  neu gallwch ffonio’r heddlu ar 101. Os ydych yn colli arian o ganlyniad i gynllun twyll, cysylltwch â’ch banc ar unwaith gan ddefnyddio’r rhif ffôn ar gefn eich cerdyn.

 

Gall pobl dalu i barcio ym meysydd parcio’r Cyngor trwy ddefnyddio arian parod, cerdyn, dros y ffôn neu trwy ap PayByPhone. Mae PayByPhone yn ffordd gyfleus o dalu am barcio gan ddefnyddio ffonau clyfar. Ar ôl cofrestru cerbyd, gall defnyddwyr dalu am barcio’n gyflym heb fod angen iddynt gario arian mân. Mae rhagor o wybodaeth ar gael i fodurwyr trwy fynd i’r wefan swyddogol, sef www.paybyphone.co.uk

Wedi ei bostio ar 10/09/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content