Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cyrtiau Tennis Parc Bodlondebyn agor yn swyddogol ar ôl eu hailwampio

Cyrtiau Tennis Parc Bodlondebyn agor yn swyddogol ar ôl eu hailwampio


Summary (optional)
start content

Cyrtiau Tennis Parc Bodlondebyn agor yn swyddogol ar ôl eu hailwampio

  • Mae cyrtiau tennis Parc Bodlondeb wedi agor yn swyddogol ar ôl gwaith ailwampio dan ofal yr LTA a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda chefnogaeth ariannol gan Sefydliad Tennis yr LTA fel rhan o’r prosiect trawsnewid mwyaf erioed i wella cyfleusterau tennis parciau ar draws Prydain.
  • Mae’r cyrtiau ym Modlondeb yn un o bedwar cyfleuster tennis CityParks yn y fwrdeistref, gyda’r lleill yn Llandrillo-yn-Rhos, Min y Don a Phentre Mawr.
  • Mae’r cyrtiau ar hyd a lled Conwy yn darparu cyfle i lawer o bobl afael mewn raced a chwarae tennis. Fe allwch chi archebu pob cwrt ar-lein drwy LTA Play Tennis ac felly gall chwaraewyr ganfod ac archebu cyrtiau ymlaen llaw a sicrhau argaeledd.

Mae cyrtiau tennis Bodlondeb wedi ailagor yn swyddogol ar ôl gwaith ailwampio gwerth £108,000 a ariannwyd yn gyfan gwbl gan Sefydliad Tnenis yr LTA. Bydd y cyrtiau’n cael eu rheoli gan yr LTA a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Drwy’r prosiect Tennis Parciau mae’r LTA wedi darparu’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn cyfleusterau tennis ym mharciau Prydain, yn cynnwys cyrtiau tennis Parc Bodlondeb. 

Mae’r cyrtiau ym mharc Llandrillo-yn-Rhos, parc Min y Don a pharc Pentre Mawr yn parhau i fod ar agor ac yn rhad ac am ddim i’w defnyddio ond, yn debyg i gyrtiau Bodlondeb, i sicrhau argaeledd rydych chi’n gallu eu harchebu drwy system Chwarae Tennis yr LTA.

Mae llawer o waith wedi’i wneud i gyrtiau Bodlondeb i sicrhau eu bod addas am flynyddoedd i ddod, yn cynnwys gosod wyneb newydd, rhwydi newydd a system gât newydd. Drwy’r rhaglen genedlaethol hon o fuddsoddi mae miloedd o gyrtiau tennis parciau, a oedd mewn cyflwr gwael neu anaddas i chwarae arnynt, wedi’u hailwampio er budd cymunedau, gan ddarparu cyfleoedd pwysig i blant ac oedolion fod yn egnïol.

Bydd pob un o’r cyrtiau ar gael i’w harchebu ar wefan yr LTA. Mae systemau archebu newydd a thechnoleg mynediad giatiau’n golygu ei bod hi bellach yn haws i fynd ar y cyrtiau drwy archebu ymlaen llaw i sicrhau argaeledd.

Bydd y cyrtiau ym mharc Bodlondeb ar gael i’w defnyddio yn rhad ac am ddim rhwng 7am a 9am, a rhwng 1pm a 2pm bob dydd. Codir tâl o £4 yr awr am gwrt ar adegau eraill. Bydd modd archebu cyrtiau ar-lein drwy fynd ar wefan Chwarae Tennis yr LTA.

Mae Tocyn Tennis Blynyddol ar gael am £39 yr aelwyd, gan sicrhau bod teuluoedd yn gallu mwynhau’r cyrtiau am 75 ceiniog yr wythnos – bydd y ffioedd yn sicrhau bod y cyrtiau’n cael eu cynnal a’u cadw’n briodol am flynyddoedd i ddod.

Mae’r LTA a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cydweithio i ddarparu sesiynau Tennis Parc am ddim Barclays, a fydd yn gyfle rheolaidd i bobl afael mewn raced a dechrau chwarae. Bydd rhagor o wybodaeth am y sesiynau hyn maes o law.

Meddai Sarah Ecob, Pennaeth Economi a Diwylliant Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’r LTA am eu cefnogaeth a’r arian i wneud y gwaith ailwampio. Mae tennis yn gamp wych i bobl o bob oed a gallu, ac mae’n fuddiol iawn i’n lles meddyliol a chorfforol. Rydym ni’n gobeithio y bydd y cyrtiau newydd yn ysbrydoli mwy o bobl i archebu cwrt a mwynhau’r gamp.”

Meddai’r Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae chwaraewyr eisoes wedi bod yn mwynhau’r cyfleusterau ar eu newydd gwedd, a dw i’n falch iawn o gael nodi agoriad swyddogol y cyrtiau. Mae’r bartneriaeth hon gyda’r LTA yn golygu ein bod ni’n gallu darparu amwynderau o ansawdd gwych i chwaraewyr. Un o amcanion ein Cynllun Corfforaethol ydi sicrhau bod pobl yn iach ac mae cael mynediad at gyfleusterau a sesiynau fel y rhai yma yn help mawr i gadw pobl yn iach.”

Meddai Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu yn yr LTA: “Ar ôl misoedd o waith caled, rydym ni’n falch o weld y cyrtiau tennis ym Mharc Bodlondeb yn agor yn swyddogol i’r cyhoedd, ac yn edrych yn well nag erioed. Mae cyrtiau tennis cyhoeddus yn gyfleusterau hanfodol i gadw’n iach ac mae arnom ni eisiau gweld cymaint o bobl â phosib, o bob oed a gallu, yn gafael mewn raced ac yn mwynhau chwarae tennis. Diolch i’r buddsoddiad hwn bydd y drysau tennis yn agor i fwy o chwaraewyr, am flynyddoedd i ddod.”

Wedi ei bostio ar 25/07/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content