Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Celebrating Youth Work

Dathlu Gwaith Ieuenctid


Summary (optional)
start content

Dathlu Gwaith Ieuenctid

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024.

Y thema eleni yw “Pam Gwaith Ieuenctid?”, i dynnu sylw at effaith anhygoel ac amrywiaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Rhwng 23 - 30 Mehefin, cynhelir amrywiaeth o weithgareddau a dathliadau ar-lein - a hynny’n ychwanegol at y cannoedd o weithgareddau, prosiectau a mentrau sy’n digwydd fel arfer bob wythnos.  

Dywedodd Faye Willet o’r Tîm Gwasanaeth Ieuenctid: “Mae’r Wythnos Gwaith Ieuenctid yn rhoi cyfle i ni rannu arfer da â gweithwyr ieuenctid ar draws y wlad ac mae’n gyfle i annog mwy o bobl i gymryd rhan. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc am yr ystod o weithgareddau sydd ar gael iddynt ym Mwrdeistref Sirol Conwy.”

Bydd Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn nodi’r Wythnos Gwaith Ieuenctid gydag ystod o weithgareddau sydd at ddant pawb, o brosiectau celf a chrefft, sesiynau e-feiciau, i weithgareddau chwaraeon.

Os ydych chi rhwng 11–25 oed ac yn chwilio am rywbeth diddorol a hwyliog i’w wneud, ewch i www.conwyifanc.com i gael mwy o wybodaeth.

Wedi ei bostio ar 24/06/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content