Newidiadau yn y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol o fis Medi 2025 ymlaen
Yn gynharach eleni, gofynnodd Gwasanaeth Addysg Conwy i ddisgyblion, rhieni a’r cyhoedd am eu barn ar gludiant o'r cartref i'r ysgol dewisol.
Cyflwynwyd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw i'r Pwyllgor Craffu Addysg a Sgiliau ac i'r Cabinet.
Ar 23 Gorffennaf 2024, cymeradwyodd y Cabinet newidiadau yn rhai o’r meini prawf dewisol ym mholisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol Conwy.
Gallai’r newidiadau hyn effeithio ar ddysgwyr sy’n ymgeisio am gludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd sy’n dechrau ym mis Medi 2025.
Gallwch weld y polisi diwygiedig a chael atebion i gwestiynau cyffredin yn: Cludiant ysgol: newidiadau o fis Medi 2025 ymlaen - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Nid yw’r newidiadau’n effeithio ar gludiant statudol am ddim o’r cartref i’r ysgol.
Wedi ei bostio ar 26/09/2024