Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Check up before you sign up

Ymchwilio cyn Ymrwymo


Summary (optional)
start content

Ymchwilio cyn Ymrwymo

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn atgoffa preswylwyr i ymchwilio’n llawn i gwmnïau sy’n cynnig gosod offer effeithlonrwydd ynni rhad neu wneud gwelliannau eraill yn eu cartrefi.

Mae’r Cyngor yn gofyn i breswylwyr Conwy fod yn wyliadwrus ac i ofalu bod y cwmni maen nhw’n ei ddewis yn un dilys. Byddai’n syniad da edrych ar y wefan Prynwch efo Hyder ( https://www.buywithconfidence.gov.uk/ ).

Dylai pawb edrych i mewn i unrhyw gwmni sy’n cysylltu â nhw’n ddiwahoddiad, hyd yn oed os ydyn nhw’n edrych yn ddilys

Gall unrhyw un fod yn ddioddefwr twyll felly mae angen i bawb fod yn wyliadwrus. Peidiwch â theimlo dan bwysau i wneud unrhyw benderfyniad nac i lofnodi unrhyw ddogfen a gofynnwch am farn rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt bob amser.

Mae Tîm Safonau Masnach Gwasanaethau Rheoleiddio Conwy yn cynghori bod preswylwyr yn gwneud ychydig o ymchwil yn gyntaf drwy edrych ar adolygiadau ar-lein, chwilio am enghreifftiau o waith blaenorol a darganfod os yw’r cwmni wedi’i achredu Maen nhw hefyd yn argymell eich bod chi’n cael mwy nag un dyfynbris ac yn cadw mewn cof nad y pris rhataf yw’r gorau o reidrwydd

Dydi pawb sy’n masnachu ar y stepen drws ddim yn dwyllodrus ond mae yna rai sy’n manteisio ar yr henoed neu aelodau bregus o’r gymuned.

Awgrymiadau Defnyddiol

Peidiwch â chytuno i waith trwsio yn y fan a’r lle.
Peidiwch a gwneud penderfyniadau byrbwyll. Siaradwch efo rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt cyn gwneud penderfyniad.

Peidiwch â cholli eich hawliau - peidiwch ag arwyddo unrhyw beth yn y fan a’r lle.
Mae gennych 14 diwrnod i ganslo unrhyw bryniannau dros £42 yr ydych yn eu gwneud yn eich cartref ac  mae’n rhaid i hyn fod yn ysgrifenedig Os bydd rhywun yn gwrthod rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi yn dweud sut ac i bwy y dylech gyflwyno eich dymuniad i ganslo - byddant yn cyflawni trosedd.

Byddwch yn wyliadwrus o gynigion arbennig neu rybuddion bod eich cartref yn anniogel.
Fel arfer ni fydd yn gynnig mor arbennig a hynny, a ddylech chi ddim cynhyrfu, pam nad oes unrhyw un arall wedi sylwi bod eich cartref yn beryglus?

Cytunwch ar y pris, y trefniadau talu a’r dyddiadau dechrau/darfod yn ysgrifenedig cyn i unrhyw waith ddechrau yn eich cartref
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwbl fodlon â’r gwaith cyn gwneud y taliad llawn.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo, yn pryderu am fasnachwr neu os oes gennych unrhyw amheuon, ffoniwch….

Yr Heddlu:101. (Os ydych yn teimlo dan fygythiad gan unrhyw werthwr stepen drws, dylech gau'r drws a ffonio rhif argyfwng yr heddlu 999).

Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth 0808 223 1133 www.citizensadvice.org.uk

 

Wedi ei bostio ar 30/05/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content