Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Mae Pwll Padlo Craig-y-don nawr ar agor

Mae Pwll Padlo Craig-y-don nawr ar agor


Summary (optional)
start content

Mae Pwll Padlo Craig-y-don nawr ar agor

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gyhoeddi fod pwll padlo Craig-y-don nawr ar agor yn swyddogol (12.30pm 12/07/24).

Pwll padlo Craig-y-don yw’r pwll mwyaf o’r pedwar pwll sydd yn sir Conwy o bell ffordd, a dyma’r un olaf i ailagor yn dilyn gwaith adnewyddu mawr.

Mae’r gwaith wedi bod yn helaeth, yn rhannol oherwydd maint y pwll. Mae cymalau ehangu wedi’u tynnu a’u disodli, mae hen sylfaen goncrit wedi’i hatgyweirio, draeniau newydd wedi’u gosod, gwaith i’r bibell arllwysfa, ac atgyweiriadau i’r perimedr. 

Ailagorodd y pyllau padlo yn Llanfairfechan, Penmaenmawr a Llandrillo-yn-Rhos ym mis Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae hwn wedi bod yn fuddsoddiad mawr i ddiogelu dyfodol hirdymor yr asedau cymunedol yma sydd mor boblogaidd. Rwy’n falch eu bod nhw i gyd ar agor ar gyfer gwyliau’r ysgol, a gobeithio y cawn ni dywydd braf yn yr haf fel bod pawb yn cael y cyfle i’w mwynhau.”

Meddai’r Cyng. Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Isadeiledd, Cludiant a Chyfleusterau: “Hoffwn ddiolch i’r contractwyr, a’n staff, am eu gwaith caled a’u hymrwymiad.”

Mae’r Cyngor yn falch fod ganddo bedwar o’r unig bum pwll padlo cyhoeddus am ddim sydd ar ôl yng Ngogledd Cymru ac mae’n cydnabod eu pwysigrwydd i bobl leol a’r economi ymwelwyr.

Cafodd mwyafrif y gwaith ei ariannu gan Lywodraeth y DU.

 

Cefndir: 

Ym mis Ebrill 2023, cadarnhawyd na fyddai pyllau padlo Conwy yn agor oherwydd methiant y profion llithro.

Cytunwyd tra bod y pyllau ar gau, y gellid gwneud mwy o waith strwythurol cyn gosod y gorchudd arbenigol newydd.

Llanfairfechan - mae gwaith wedi’i wneud ar yr uniadau ehangu, y grisiau oedd wedi torri a gwisgo, a’r llwybrau o amgylch y pwll, ac mae’r system cyflenwi dŵr wedi’i gwella hefyd. 

Penmaenmawr - rydym wedi adnewyddu'r llwybr cerdded, yn ogystal â gwneud gwaith ar sylfaen y pwll a'r deunydd oddi tano.

Llandrillo-yn-Rhos - gwnaethom gomisiynu peiriannydd strwythurol i ymdrin â phroblemau gyda dŵr daear yn treiddio i’r pwll. Gosodwyd haen tancio a chast sylfaen tanc pwll newydd.

Craig y Don - mae’r gwaith wedi bod yn helaeth, yn rhannol oherwydd maint y pwll. Mae cymalau ehangu wedi’u tynnu a’u disodli, mae hen sylfaen goncrit wedi’i hatgyweirio, draeniau newydd wedi’u gosod, gwaith i’r bibell arllwysfa, ac atgyweiriadau i’r perimedr. 

Cafodd y gwaith ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, fel rhan o flaenoriaeth buddsoddiad Cymuned a Lle a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

 

Wedi ei bostio ar 12/07/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content