Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Pwll padlo Craig y Don - diweddariad 21/06/24

Pwll padlo Craig y Don - diweddariad 21/06/24


Summary (optional)
start content

Pwll padlo Craig y Don - diweddariad 21/06/24

Mae contractwyr wrthi’n gweithio ar gamau olaf y gwaith ar bwll padlo Craig y Don - mae angen gwneud y gwaith hwn yn ystod cyfnod estynedig o dywydd sych.   

Mae’r tywydd wedi gwella ers diwrnod neu ddau ac rydym yn gobeithio y bydd yr amodau cliriach, mwy sefydlog hyn yn golygu y gellir cwblhau rhannau olaf pwll padlo Craig y Don.

Mae’r tîm a’r contractwyr yn ymwybodol bod angen cwblhau cyn gynted â phosibl, fel y gall preswylwyr ac ymwelwyr fwynhau’r cyfleuster hwn sy’n annwyl i bawb.

 

Mwy o wybodaeth:  

Ym mis Ebrill 2023, cadarnhawyd na fyddai pyllau padlo Conwy yn agor oherwydd methiant y profion llithro. Cytunwyd tra bod y pyllau ar gau, y gellid gwneud mwy o waith strwythurol cyn gosod y gorchudd arbenigol newydd.

Yn dilyn eu hailwampio, ail agorodd y pyllau padlo yn Llanfairfechan, Penmaenmawr a Llandrillo-yn-Rhos ym mis Mai 2024.

Y pedwerydd pwll padlo yng Nghraig y Don yw’r mwyaf o bell ffordd. Mae'r holl waith adeiladu mawr wedi'i gwblhau ac mae contractwyr wedi bod yn gwneud camau olaf eu gwaith pan fydd y tywydd yn caniatáu.  Bydd dyddiad agor pwll padlo Craig y Don yn cael ei gadarnhau cyn gynted ag y bydd yn barod.

 

Wedi ei bostio ar 21/06/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content