Dementia – Manteisio ar y cymorth cywir, ar yr adeg gywir: Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ydych chi'n poeni am eich cof? Nid chi yw'r unig un. Amcangyfrifir bod 11,900 o bobl yn byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru, a bod rhyw 67,000 o ofalwyr di-dâl yn rhoi cymorth i anwyliaid, yn ôl Cyfrifiad 2021.
Mae Gwasanaeth Cymorth Cof Gogledd Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys unigolion sy'n pryderu ynghylch materion sy'n effeithio ar y cof, y rhai sy'n byw gyda dementia gartref neu yn yr ysbyty, a'u ffrindiau a'u teuluoedd.
Gwnaeth y gwasanaeth roi cymorth i 4,700 o bobl yn ystod 2023/24, dros 1,200 yn fwy o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae cymorth ar gael ar bob cam o'r daith ddementia - cyn, yn ystod, ac ar ôl diagnosis. Mae cydweithio rhwng y chwe awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Alzheimer's, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, a NEWCIS yn sicrhau bod cyngor ac arweiniad yn cael eu personoli i ddiwallu anghenion unigol.
Gallwch fanteisio ar gymorth trwy ymweld ag un o'r chwe Chanolfan Ddementia neu trwy gysylltu â nhw. Mae un ar gael ym mhob sir yng Ngogledd Cymru. Maent wedi'u lleoli yn Llangefni, Bangor, Bae Colwyn, Dinbych, Treffynnon a Wrecsam. Nid oes angen unrhyw gyfeiriad gan feddyg teulu na gweithiwr proffesiynol, ond gall gweithwyr proffesiynol gysylltu ar ran yr unigolyn hefyd.
Y rhif ffôn i gysylltu ag unrhyw ganolfan dementia yng Ngogledd Cymru yw: 01492 542212. Gallwch ffonio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.
Y cyfeiriad e-bost yw NWmemorysupport@ctnw.org.uk
Mae'r Canolfannau Dementia yn darparu:
- Gwybodaeth a chyngor
- Gweithgareddau a Dal i Fyny
- Cymorth emosiynol a chymorth cymheiriaid
- Siaradwyr gwadd a chlinigau iechyd
Dywedodd y Cyng. Penny Andow, Aelod Cabinet Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig Conwy: “Mae’r cymorth mae’r Llwybr Cymorth Cof yn ei gynnig yn gallu helpu i newid bywydau rhai sydd â’r clefyd hwn. Mae’n rhan o ymrwymiad y Bartneriaeth i gydnabod yr angen am gefnogi pobl i fyw’n dda gyda dementia a’u helpu i barhau i fod yn rhan o’u cymuned leol.”
Mae hwn yn un o'r gwasanaethau lawer a ariennir gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru , sy'n rhoi cymorth o ran cyflwyno amrywiaeth o fentrau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl a chymunedau ar draws y rhanbarth.
I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Cymorth Cof Gogledd Cymru, ewch i:
https://www.northwalescollaborative.wales/dementia/north-wales-memory-support-pathway/
I ddysgu mwy am Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, ewch i:
https://www.northwalescollaborative.wales/regional-partnership-board/
Wedi ei bostio ar 28/01/2025