Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cadw ardystiad Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd am y ddegfed flwyddyn yn olynol.
Mae Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd yn unigryw i Gymru ac wedi’i dylunio i hyrwyddo rheolaeth amgylcheddol dda ac i helpu sefydliadau reoli eu gweithgareddau er mwyn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
Mae cadw’r achrediad yn dangos fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am ei ymrwymiad i reolaeth amgylcheddol dda, am hyrwyddo gwelliant amgylcheddol ac am gymryd ei gyfrifoldeb am yr amgylchedd o ddifrif.
Yn ystod yr asesiad, canmolwyd y Cyngor am nifer o enghreifftiau o arferion da, megis ei ymrwymiad i ddal ati i wella ei reolaeth amgylcheddol ac am lefel yr ymwybyddiaeth ymysg staff o sut y mae eu gweithgareddau’n effeithio’r amgylchedd ar draws y sefydliad, o’r uwch reolwyr i’r staff rheng flaen.
Meddai Rhun ap Gareth, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Ychydig iawn o sefydliadau o faint a chymhlethdod Conwy sydd wedi llwyddo i gael achrediad Lefel 5 ar draws eu busnes cyfan, ac rydym yn falch o fod wedi cyflawni’r gamp hon.
“Mae’r safon yn dangos ein hymrwymiad i welliant amgylcheddol parhaus ac i’n hamcan o fod yn sero net erbyn 2030 fel rhan annatod o’n cynllun corfforaethol ar gyfer 2022–2027.”
“Mae’r safon yn cynnig llawer o fuddion i’n sefydliad, gan gynnwys gwell effeithlonrwydd ynni, lleihad yn ôl troed carbon y Cyngor a gwell cynaliadwyedd amgylcheddol.”
Meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, “Drwy ennill yr achrediad hwn, rydym wedi cyflawni un o gamau blaenoriaeth Cynllun Corfforaethol Conwy.
“Mae’n gyflawniad rhagorol ac yn gadael i ni arwain y ffordd drwy wreiddio arferion amgylcheddol da yn ein bywydau bob dydd, ac wrth wneud hynny, rydym yn diogelu amgylchedd naturiol Conwy nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Wedi ei bostio ar 18/04/2024