Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Golau gwyrdd ar gyfer gwaredu Bodlondeb

Golau gwyrdd ar gyfer gwaredu Bodlondeb


Summary (optional)
start content

Golau gwyrdd ar gyfer gwaredu Bodlondeb

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dewis cynigydd a ffafrir ar gyfer adeilad swyddfa Bodlondeb yng Nghonwy. 

Mae aelodau’r Pwyllgor Craffu Cyllid ac Adnoddau a’r Cabinet wedi cefnogi dyfarnu’r brydles i Ideas Forums Ltd o Gaerdydd a fydd yn adnewyddu’r swyddfeydd fel Canolfan Busnes ac Arloesi. 

Meddai’r Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn o gadarnhau bod cwmni Ideas Forums wedi cael ei ddewis i gymryd y brydles ar gyfer Bodlondeb. Roeddem yn cytuno fod y cynnig a gyflwynwyd gan Ideas Forums yn cynnig dyfodol cynaliadwy a chyffrous i’r adeilad, ac yn darparu cyfleoedd datblygu economaidd i dref Conwy a’r ardal ehangach. Hoffwn ddiolch i’m cyd gynghorwyr am eu hystyriaeth ofalus i’r cynnig hwn.”  

Bydd y Cyngor nawr yn dechrau'r broses o ddyfarnu'r brydles, yn amodol ar y prosesau cyfreithiol angenrheidiol.  

Cefndir y Cynigydd a Ffafrir: 

Mae Ideas Forums yn dathlu ac yn cefnogi entrepreneuriaid trwy raglenni fel Gwobrau Mawreddog Entrepreneuriaid Prydain, Mynegai Fast Growth 50 y DU, Gwobrau Busnesau Newydd y DU a’r Ŵyl Syniadau. 

Mae cyfarwyddwyr y cwmni - Francesca James, yr Athro Dylan Jones-Evans a Nick Pritchard – yn falch iawn o gael y cyfle i drawsnewid Bodlondeb yn ganolfan fusnes o safon fyd-eang, gan roi bywyd newydd i adeilad hanesyddol a’i drawsnewid yn ganolfan ddeinamig i entrepreneuriaeth er mwyn llywio twf economaidd lleol a rhanbarthol. 

Dywedodd yr Athro Jones-Evans, “Rwy'n falch iawn o allu dod yn ôl i Ogledd Cymru i wneud Bodlondeb yn ffynhonnell o fentergarwch ac arloesedd yng nghanol Conwy ac yn lleoliad ar gyfer syniadau arloesol a mentrau trawsnewidiol.  Trwy feithrin ecosystem ddeinamig o arloesedd a buddsoddiad mewn lleoliad pensaernïol syfrdanol, ein nod yw llywio datblygiad economaidd, creu swyddi gwerth uchel, a gwneud Conwy’n ganolbwynt byd-eang ar gyfer entrepreneuriaeth â photensial uchel. 

Bydd adeilad hanesyddol ac eiconig Bodlondeb yn cael ei ailwampio i gefnogi datblygiad a thwf cwmnïau entrepreneuraidd sydd â photensial twf uchel gan greu amgylchedd sy’n ffafriol i ddenu mewnfuddsoddiad gan gwmnïau sy’n chwilio am gyfleoedd i gydweithio a thyfu. 

Mae Nick Pritchard, un o entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus Gogledd Cymru yn y degawd diwethaf, yn cefnogi’r fenter i gael mwy o bobl ifanc i sefydlu busnesau newydd yn y rhanbarth. 

Dywedodd “Fel gŵr angerddol o ogledd Cymru sydd eisoes wedi creu llawer o swyddi i weithwyr Cymraeg trwy fy musnesau eraill, hoffwn ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc sydd â syniadau gwych i aros a ffynnu yn yr ardal. O ganlyniad, byddwn yn cynnig lle a chymorth am ddim i’r rheiny sy’n dymuno bod yn entrepreneuriaid a chreu busnesau newydd cyffrous a fydd yn tyfu ac yn cael effaith ar eu sectorau. Trwy drawsnewid Bodlondeb yn ganolfan entrepreneuriaeth o safon fyd-eang, ein nod yw creu cannoedd o swyddi newydd a degau o filiynau o bunnau i’r economi leol dros y pum mlynedd nesaf”.

 

Nodyn: Nid yw’r coetir, y gofeb rhyfel, y lawnt, y maes criced, y cyrtiau tennis na’r maes chwarae i blant wedi’u cynnwys yn y cynnig, a byddant yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio. 

 

 

Wedi ei bostio ar 14/08/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content