Ydych chi wedi clywed am Bartneriaeth Fwyd Conwy?
Mae Partneriaethau Bwyd yn cael eu sefydlu i ddod ag aelodau o’r gymuned, sefydliadau a busnesau ynghyd i weithio tuag at system fwyd sy’n fwy cadarn, drwy gefnogi eu mentrau’n gysylltiedig â bwyd. Mae gwaith y Bartneriaeth Fwyd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n annog partneriaid i gymryd camau at wella mynediad at gynnyrch sydd wedi’i dyfu’n lleol i bawb, meithrin gwybodaeth a sgiliau cymunedol am dyfu bwyd, maeth a choginio, a lleihau gwastraff bwyd.
Mae pawb yn gwybod am fanteision llai o filltiroedd bwyd, llai o wastraff bwyd a gwell mynediad at fwyd maethlon, fforddiadwy. Mae Partneriaeth Fwyd Conwy wedi darparu cyllid grant i sawl prosiect i helpu i gyflawni’r amcanion hynny.
Mae prosiectau garddio mewn ysgolion yn addysgu plant am dyfu, cynaeafu a choginio cynnyrch, ar safle’r ysgol a thrwy becynnau tyfu llysiau i fynd â nhw adref. Mae sesiynau coginio a bwyta i annog bwyta’n iach wedi’u cynnal gyda Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a’r New Life Revival Church ym Mae Colwyn. Bydd y tîm yn Llyfrgell Bae Colwyn yn defnyddio eu cyllid i greu gardd gymunedol lle gall pobl gasglu eu perlysiau a’u ffrwythau meddal eu hunain.
Mae Bwyd Bendigedig Conwy, sydd â gerddi cymunedol wrth Ganolfan Ddiwylliant Conwy a’r Ffynnon yng Nghonwy, wedi cael cyllid i helpu i redeg eu stondin Veg-x (stondin lysiau diwastraff) sy’n cael ei chynnal ambell waith y mis yn nhref Conwy. Mae’r stondin yn darparu cynnyrch am ddim i’r cyhoedd, wedi’i gyflenwi gan dyfwyr lleol.
Dywedodd y Cyng. Penny Andow, Aelod Cabinet Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Fe hoffem ni weld digonedd o gynnyrch wedi’i dyfu’n lleol sy’n fforddiadwy ac ar gael i bawb, yn cael ei ddefnyddio gan aelwydydd a sefydliadau ar draws y Sir. Mae’r grantiau yma gan Bartneriaeth Fwyd Conwy yn gallu dod ag unigolion a grwpiau ynghyd i weithio tuag at system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghonwy.”
Am fwy o wybodaeth am Bartneriaeth Fwyd Conwy, a gwybodaeth am gyfleoedd cyllid, ewch i: Partneriaeth Fwyd Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gall unrhyw un sy’n gallu cyflenwi cynnyrch sydd ganddynt dros ben i Fwyd Bendigedig Conwy ar gyfer eu stondin Veg-x gysylltu â conwyvegx@gmail.com neu ddod draw at y stondin Veg-x ar Castle Street yng Nghonwy.
Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Datblygu Partneriaeth Bwyd, a’i gefnogi gan Synnwyr Bwyd Cymru.
Nod y cyllid yw datblygu partneriaethau bwyd traws-sector a fydd yn dod â chynrychiolwyr ynghyd o sectorau gwahanol i helpu i fynd i’r afael ag ystod o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan geisio sicrhau bwyd da i bawb.
Wedi ei bostio ar 16/07/2024